Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19
Published: 10/01/2018
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint
ystyried cyllideb ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 pan fydd yn
cyfarfod ddydd Llun, 15 Ionawr.
Mae鈥檙 Cyfrif Refeniw Tai鈥檔 ariannu swyddogaeth y Cyngor fel landlord i dros
7,000 o gartrefi. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen adeiladu tai cyngor, trwsio a
chynnal a chadw cartrefi, gwella鈥檙 stoc a gwelliannau amgylcheddol, rheoli
cymdogaethau gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am ystadau,
casglu incwm a chyfranogiad y cwsmeriaid.
Mae鈥檙 Cyngor yn gorfod cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau rhent
tai cyngor dros amser, ac maer fformiwla ar gyfer gosod rhenti bob blwyddyn
hefyd yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru. Mae rhenti鈥檔 cael eu cyfrifo bob
blwyddyn ar sail Mynegai Prisiau i Ddefnyddwyr y mis Medi blaenorol (3%) a
chanran go iawn o gynnydd o 1.5%, a hyd at 拢2 ychwanegol. Os yw hyn yn cael ei
gyflwynon llawn, byddain golygu cynnydd mewn rhenti o 4.5% ym mis Ebrill, a
hyd at 拢2 ychwanegol.
Mae cynnydd mewn rhent a thaliadau gwasanaeth yn cael eu talu gan Gredyd
Cynhwysol a budd-dal tai ar gyfer tenantiaid cymdeithasol. Er hynny, bydd
cyfran o denantiaid yn gymwys i dderbyn rhan or budd-dal yn unig ac felly fe
allent ei chael yn fwy anodd talu.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn pryderu am fforddiadwyedd i denantiaid ac felly rwyf i ac
Arweinydd y Cyngor yn cynnig opsiwn i gynyddu rhenti 3% yn unig ac hyd at 拢2.
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried hyn ar 16 Chwefror ac yna鈥檔 gwneud
argymhelliad i鈥檙 Cyngor llawn yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Bydd gofyn i鈥檙
Pwyllgor Craffu ystyried goblygiadau鈥檙 ddau opsiwn a darparu adborth i鈥檙
Cabinet cyn ei gyfarfod. Bydd Ffederasiwn y Tenantiaid hefyd yn ystyried y
ddau opsiwn yn eu cyfarfod ddiwedd mis Ionawr.鈥
Mae disgwyl i renti garejis gynyddu 拢1 yr wythnos ac mae cynnig i rent am ddarn
o dir ar gyfer garej gynyddu 拢0.20 yr wythnos.
Mae angen ir Cyfrif Refeniw Tai fod 芒 chynllun busnes 30 mlynedd wedii
lunio. Mae hwn yn canolbwyntio ar gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC),
cadw at addewidion y ddogfen Dewisiadau, arbedion effeithlonrwydd parhaus a
wnaed a 200 ty cyngor newydd sydd wedi鈥檜 hadeiladu.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淢ae 拢21 miliwn wedi鈥檌 gynnwys yn rhaglen SATC ar gyfer 2018/19. Mae鈥檔 cynnwys
darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith
allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol,
addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni.
鈥淎r ben hynny, mae 拢14.2 miliwn arall ar gael ar gyfer Rhaglen Strategol
Adfywio a Thai (SHARP) y Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor a chartrefi
fforddiadwy鈥檔 cael eu hadeiladu yn ystod 2018/19.鈥