Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfa Cartrefi Cynnes
Published: 04/01/2018
Ar ddechrau鈥檙 flwyddyn, mae鈥檔 amserol bod Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn
llwyddiannus gyda chais am arian effeithlonrwydd ynni. Mae鈥檙 Cyngor wedi
derbyn 拢2.7 miliwn o鈥檙 Gronfa Cartrefi Cynnes i osod systemau gwres canolog a
mesurau effeithiolrwydd ynni mewn hyd at 500 eiddo ar draws Sir y Fflint a
darparu mwy o ynni a chymorth iechyd ar draws Gogledd Cymru dros y 3 blynedd
nesaf.
Mae鈥檙 Gronfa Cartrefi Cynnes 拢150 miliwn wedi鈥檌 sefydlu gan y Grid
Cenedlaethol, yn cael ei weinyddu gan Datrysiadau Cynhesrwydd Fforddiadwy,
Cwmni Budd Cymunedol ac mae鈥檔 ariannu cynlluniau tebyg eraill i fynd i鈥檙 afael
芒 thlodi tanwydd ar draws Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban.
Amcanion y Gronfa Cartrefi Cynnes yw gwneud cartrefi sy鈥檔 dioddef tlodi tanwydd
di-nwy yn fwy cyfforddus, lleihau biliau a gwella canlyniadau iechyd i rai o鈥檙
lefelau tlodi tanwydd mwyaf difrifol. Bydd y newyddion hwn yn cael ei groesawu
gan rai o鈥檙 9000 o gartrefi yn Sir y Fflint sydd heb fynediad i brif gyflenwad
nwy ar hyn o bryd. Bydd y cynllun ar gael i denantiaid y Cyngor, tenantiaid
cymdeithasau tai a pherchen-feddianwyr syn diwallu meini prawf cymhwyster
penodol.
Mae鈥檙 cyllid yn darparu cyfleoedd i osod amrywiaeth o dechnolegau ynni a asesir
i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr eiddo a鈥檙 deiliaid tai. Mewn ardaloedd
lle mae nwy ar gael, gall gwelliannau gynnwys gosod boeleri effeithlon o ran
ynni. Mewn ardaloedd mwy gwledig lle nad yw cyswllt nwy yn ymarferol neu鈥檔
ddilys yn fasnachol yna bydd dulliau technoleg mwy arloesol fel pympiau gwres
ffynhonnell aer neu ffynhonnell daear yn cael eu hystyried. Bydd pob mesur yn
ceisio gwneud eiddo yn fwy cyfforddus, gwneud costau ynni yn fwy fforddiadwy a
lleihau allyriadau nwyon ty gwydr.
Dywedodd Jeremy Nesbitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Datrysiadau Cynhesrwydd
Fforddiadwy:
鈥淩ydym yn gyffrous am y buddsoddiad hwn o鈥檙 Grid Cenedlaethol. Mae datrys y
materion sy鈥檔 gysylltiedig 芒 thlodi tanwydd yn parhau i herio llawer o鈥檔
budd-ddeiliaid ac mae鈥檙 adborth rydym wedi鈥檌 dderbyn eisoes yn darparu
tystiolaeth o sut y bydd y Gronfa Cartrefi Cynnes yn gwneud gwahaniaeth
cadarnhaol i filoedd o gartrefi ledled y wlad.鈥
Yn ogystal, drwy gydweithio gyda鈥檌 bartneriaid, bydd Cyngor Sir y Fflint yn
ceisio cynorthwyo cartrefi a chymunedau diamddiffyn i leihau eu dyled a
phryderon tlodi. Trwy deilwra cyngor a chefnogaeth i鈥檞 hanghenion penodol, y
bwriad yw gwella iechyd a lles hyd at 3000 o drigolion ar draws Gogledd Cymru
yn ogystal 芒 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檜 costau a鈥檜 defnydd o ynni.
Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden:
鈥淥 ganlyniad i鈥檙 tywydd garw diweddar a brofwyd gan Sir y Fflint, mae鈥檙 Cyngor
Sir yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn gallu cynnig cefnogaeth i nifer o dai
sydd wedi gorfod dioddef systemau gwres gwael a chostau tanwydd uchel. Drwy
weithio gyda鈥檔 rhwydwaith o bartneriaid dros y 3 blynedd nesaf rydym yn
gobeithio gwneud gwahaniaeth sylweddol i鈥檙 bobl hynny sy鈥檔 dioddef tlodi
tanwydd ac rwyn hyderus y bydd y prosiect hwn yn cynnig buddion cymdeithasol,
cymunedol ac amgylcheddol sylweddol.
Am fwy o wybodaeth ar y cynllun ac i wybod os ydych yn gymwys i dderbyn
cefnogaeth gallwch gysylltu 芒: 0800 954 0658 neu
healthyhomeshp@flintshire.gov.uk