Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cymunedau yn Gyntaf a Strydwedd yn dod at ei gilydd i gynnig hyfforddiant
  		Published: 03/01/2018
Daeth nifer o bobl leol ynghyd yn ddiweddar i dderbyn eu tystysgrifau, wedi 
iddynt gwblhau cwrs hyfforddiant unigryw. 
Gweithiodd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint mewn partneriaeth 芒 Th卯m Strydwedd 
Cyngor Sir Y Fflint i greu cwrs tair wythnos newydd a chyffrous yn cynnig 
hyfforddiant, sgiliau a phrofiad gwaith yn ymwneud 芒 swyddi o fewn adran 
Strydwedd y Cyngor. 
Dywedodd un cyfranogwr: 
 鈥淔e wnaethom ddysgu sgiliau defnyddiol iawn, gan gynnwys codi a symud yn 
gorfforol, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a gwasanaeth cwsmeriaid.  Cawsom 
hefyd gyfle i gael profiad ymarferol o ddelio 芒 gwastraff cyffredinol, a chyfle 
i weithio yn yr eira ac roedd hynny鈥檔 brofiad da.  Rwy鈥檔 gobeithio cael swydd 
gyda鈥檙 Cyngor yn y dyfodol.鈥
Dywedodd un o鈥檙 cyfranogwyr eraill: 
 鈥淏ydd y cymwysterau a鈥檙 profiad a gefais o gymorth i mi gael swydd yn y 
dyfodol ac maent yn edrych yn dda ar fy CV.  Rwy鈥檔 gobeithio dechrau swydd mewn 
ffatri leol ar 么l gorffen y cwrs hwn.鈥
Cydweithiodd Nia Parry, Swyddog Cymunedau Yn Gyntaf a Gemma Boniface, Uwch 
Swyddog Cydymffurfedd a Hyfforddiant Strydwedd i drefnu cynnwys y cwrs.  
Darparwyd y cwrs ar y cyd gan yr hyfforddwr Strydwedd, Stephen Jones a 
Groundworks, Gogledd Cymru.  Goruchwyliwyd y lleoliadau gwaith gan y Rheolwr 
Logisteg, Gareth Thomas.
Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden:
 鈥淢ae gallu cynnal cyrsiau hyfforddi o鈥檙 fath o gymorth mawr i breswylwyr lleol 
ac ein heconomi leol.  Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl leol fel eu bod yn 
gallu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal.  Rwyn falch iawn bod y 
cwrs Strydwedd hwn wedi bod yn llwyddiannus ac rwyn dymunor gorau i bawb ar 
gyfer y dyfodol.
Pennawd y Llun: O鈥檙 Chwith i鈥檙 Dde: Gemma Boniface, Gareth Thomas, Daniel 
Higgins, Raymond Limbert, Lee Thompson, Niall Waller, Dale Hughes, Nigel Page, 
Jordan Auld a Nia Parry.