Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Casgliadau gwastraff gardd
  		Published: 14/12/2017
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo鈥檙 polisi codi t芒l am 
wastraff gardd yn ei gyfarfod 19 Rhagfyr.
Mae perfformiad ailgylchu Sir y Fflint yn un o鈥檙 gorau yng Nghymru, ond nid 
ywr gwasanaeth yn unol 芒 glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer gwastraff, sy鈥檔 
argymell bod Awdurdodau Lleol yn codi t芒l ar breswylwyr am ddarparu gwasanaeth 
casglu gwastraff gardd (nad ydyw鈥檔 wasanaeth statudol), a bod y cyllid hwn 
yna鈥檔 cael ei ddefnyddio i gefnogi鈥檙 gwasanaeth ailgylchu cyffredinol. 
O ystyried y pwysau ariannol ar y Cyngor o ganlyniad i anghenion cynyddol y 
gymuned a llai o arian grant gan Lywodraeth Cymru, mae bellach yn hanfodol 
cyflwyno t芒l am wasanaeth gwastraff gardd yn Sir y Fflint.  Mae hyn eisoes 
wedii gyflwyno gan nifer o Gynghorau ar draws Cymru a Lloegr.
Bydd y gwasanaeth codi t芒l newydd yn parhau i gael ei roi o 1 Mawrth tan 30 
Tachwedd, oherwydd dyma pryd y ceir y galw uchaf am y gwasanaeth, ac nid yw鈥檙 
mwyafrif o bobl yn gofyn am y gwasanaeth dros y gaeaf. I鈥檙 preswylwyr hynny nad 
ydynt am gyfranogi yn y gwasanaeth newydd, mae modd mynd 芒 gwastraff gardd o 
hyd i un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sydd wedi鈥檜 lleoli鈥檔 
strategol ar draws y Sir, am ddim. Mae Sir y Fflint yn parhau i gynnig 
darpariaeth Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref helaeth, yn dilyn 
adolygiad or gwasanaeth yn 2016. 
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd 
Carolyn Thomas: 
鈥淓r nad yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd, o ystyried y drefn o galedi 
parhaol gan Lywodraeth y DU, mae鈥檔 un o鈥檙 rhai hawsaf gan fod amseroedd anodd 
o鈥檔 blaenau.  Bydd preswylwyr yn cael clywed yn swyddogol am y t芒l yn ystod 
Ionawr, gyda nodyn atgoffa鈥檔 cael ei anfon gyda gwybodaeth Treth y Cyngor ym 
Mawrth 2018, a bydd ganddynt tan 1 Ebrill i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth 
newydd.  Unwaith y bydd t芒l wedi鈥檌 dderbyn, bydd sticeri鈥檔 cael eu hanfon allan 
fel y gall criwiau adnabod pa eiddo sydd angen y gwasanaeth.  Bydd y gwasanaeth 
am ddim i bob preswylydd yn ystod Mawrth 2018.
Darperir ar gyfer y gostyngiad mewn niferoedd staff o swyddi gwag cyfredol yn y 
gwasanaeth, ac ni fydd unrhyw swyddi鈥檔 cael eu colli o ganlyniad i鈥檙 cynigion.