Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diweddariad ar y Fargen Twf Gogledd Cymru 
  		Published: 14/12/2017
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael adroddiad cynnydd ar y Fargen Twf 
Gogledd Cymru yn eu cyfarfod nesaf dydd Mawrth, 19 Rhagfyr.
 
Bu i鈥檙 Bargen Twf, sydd yn cynnig buddsoddiad o 拢1.3biliwn mewn 12 prosiect a 
gefnogir gan y gronfa Bargen Twf o 拢383.4 miliwn, ei dderbyn yn ffurfiol gan 
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y mis diwethaf.
 
Mae chwe Cyngor Gogledd Cymru yn credu y bydd y fargen hon yn trawsnewid 
economi Gogledd Cymru, gan ei wneud yn graff, yn wydn ac yn gydlynol. Bydd y 
Bargen Twf yn eistedd ochr yn ochr 芒 rhaglenni ar wah芒n a pherthnasol i wella 
cysylltedd digidol, rheilffyrdd a ffyrdd a ariennir gan Raglenni Cyfalaf 
Llywodraeth Cymru a鈥檙 DU.
 Bydd y Fargen Twf yn creu dros 5,000 o swyddi鈥檔 uniongyrchol, cynyddu cyfradd 
sefydliadau busnes a thwf o fentrau maint bach a chanolig, cefnogi arloesed 
mewn gweithgynhyrchu ynni ac uwch, lleihau bod heb waith, a gyda rhaglenni 
eraill a datblygiad Wylfa Newydd, cynyddu GDP o 拢12.8 biliwn yn 2015 i 
拢20biliwn yn 2035. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Cadeirydd Grwp Arweinyddion Twf Economaidd 
Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 
鈥淢ae Cynghorau Sir Gogledd Cymru yn falch eu bod wedi cyflwyno cynnig twf ar 
gyfer Gogledd Cymru. Mae鈥檙 rhanbarth yn unedig wrth adnabod yr angen i 
drawsnewid y ffordd y mae economi鈥檙 rhanbarth wedi鈥檌 strwythuro, fel y gallwn 
gynyddu ffyniant a sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn hygyrch i 
bawb ar draws Gogledd Cymru.  Mae鈥檙 Bargen Twf yn arf hanfodol i wneud ein 
heconomi yn fwy craff, mwy gwydn ac yn fwy cydlynol.  Mae鈥檙 chwe Arweinydd y 
Cynghorau yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU, tra 
byddwn yn ymdrechu i drafod bargen a fydd yn cyflenwi ein gweledigaeth am 
economi Gogledd Cymru fwy cynhwysol a ffyniannus.
 
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 
 
鈥淏ydd y Fargen Twf yn agor buddsoddiad llywodraeth a chyfle sylweddol ar gyfer 
twf busnes. Un or cymhelliannau i mi oedd y synnwyr o anghyfiawnder, er 
enghraifft bod buddsoddiad gwael yng Ngogledd Cymru mewn isadeiledd ffyrdd a 
rheilffyrdd.   Mae brys yn Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflenwi鈥檙 
cynnig twf yn amlwg iawn. Maer holl bart茂on eisiaur Cynnig gael ei drafod ai 
gytuno o fewn 2018 fel bod y buddsoddiad yn llifo.