天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn erlyn landlord

Published: 14/12/2017

Mae landlord Sir y Fflint wedi鈥檌 ganfod yn euog o naw trosedd o dan ddeddfwriaeth tai a ddyluniwyd i amddiffyn tenantiaid yn y sector rhentu preifat yn ddiweddar, ar 么l erlyniad llwyddiannus gan d卯m Iechyd Amgylcheddol Sir y Fflint. Canfuwyd Steven John Gleave o Brestatyn, sy鈥檔 berchennog ar bedwar eiddo rhent yn Sir y Fflint, yn euog o fethu 芒 chydymffurfio 芒 Rhybudd Gwella ac wyth trosedd tai arall, yn cynnwys: methu 芒 chofrestru ei eiddo rhent gyda Rhentu Doeth Cymru a methu 芒 chael trwydded i weithredu fel landlord preifat yng Nghymru 鈥 gyda鈥檙 ddau yn ofyniad cyfreithiol ers Tachwedd 2014. Roedd yr eiddo a oedd yn destun Rhybudd Gwella, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Tai 2004, yn fflat llawr gwaelod mewn teras dau lawr yn Shotton, gyda thenant oedrannus yn byw ynddo. Nid oedd yr eiddo wedi鈥檌 gynnal gan Gleave am nifer o flynyddoedd. O鈥檙 herwydd, roedd y preswyliwr wedi gorfod dioddef lleithder treiddiol, llwydni du a oedd yn tyfu, ddiffyg gwres digonol, cyfleusterau cegin ac ymolchi gwael, darpariaethau diogelwch t芒n digonol a llechi鈥檔 disgyn oddi ar y to. Fe wnaeth Gleave hefyd wrthod talur bil trydan am fflat arall yn yr un adeilad, ac fe wrthododd i wahanur mesurydd trydan ar gyfer y ddwy fflat. Fe olygodd hyn nad oedd gan y meddiannwr oedrannus unrhyw ddewis ond talu鈥檙 么l- ddyledion (dros 拢1,400) drwy鈥檙 mesurydd a rannwyd. Roedd Gleave hefyd wedi gwrthod cofrestru ei bedwar eiddo rhent yn Sir y Fflint gyda Rhentu Doeth Cymru ac wedi methu 芒 chynnal hyfforddiant gorfodol er mwyn cael trwydded i weithredu fel landlord yng Nghymru. Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae鈥檙 erlyniad llwyddiannus hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn bodloni鈥檙 holl safonau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer tai preifat yng Nghymru. Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref sydd mewn cyflwr da, gyda mynediad parod at bob amwynder hanfodol a heb unrhyw beryglon adeileddol. Er ein bod yn ceisio lleihau effeithiau iechyd o ganlyniad i gyflyrau tai gwael drwy gyfuniad o gyngor a chymorth ariannol, o bryd iw gilydd rydym yn delio gyda materion sydd mor ddifrifol fel bod erlyn yn hanfodol. Mae鈥檙 erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges glir at landlordiaid preifat eraill, bod diffyg cydymffurfiad 芒 safonau tai cyfredol a diffyg cydymffurfiad 芒 chyfreithiau Rhentu Doeth Cymru 鈥 yn gwbl annerbyniol.鈥 Cafodd Gleave, na ddaeth ir gwrandawiad llys, ddirwy o 拢11,081 a鈥檌 orchymyn i dalu鈥檙 cyfanswm o fewn 28 diwrnod neu wynebu ymddangosiadau llys pellach.