Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llyffantod cefnfelyn yn ffynnu diolch i weithio mewn partneriaeth
  		Published: 11/12/2017
Yn ddiweddar bu Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio gyda Network 
Rail er mwyn gwneud gwaith amgylcheddol pwysig. 
 
Treuliodd t卯m o oddeutu 15 o wirfoddolwyr o Network Rail au prif gontractwr ar 
Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru, Siemens, ddiwrnod gydar Ceidwaid 
Cefn Gwlad yn clirio eithin ac yn cribinio ardal y llyffant cefnfelyn yn 
Bettisfield, Bagillt. 
 
Bu鈥檙 t卯m yn gweithio i glirio鈥檙 ardal lle mae鈥檙 llyffant cefnfelyn wedi ei 
ail-gyflwyno er mwyn helpu i gynyddu eu cynefin porthi.  Mae arnynt angen ardal 
gyda gwair byr gan eu bod yn hela drwy redeg ar 么l anifeiliaid di-asgwrn-cefn 
yn hytrach na hopian fel llyffantod neu frogaod eraill. 
 
Mae gwaredu鈥檙 eithin hefyd yn lleihau cynefin y llyffant dafadennog, 
cystadleuydd uniongyrchol y llyffant cefnfelyn 鈥 yr amffibiad prinaf yng 
Nghymru.  Roedd y llyffant cefnfelyn wedi diflannu o Gymru tan i鈥檙 
Ymddiriedolaeth Gadwraeth Ymlusgolegol gyflwyno miloedd o benbyliaid llyffant 
cefnfelyn i rannau o dwyni Gronant a Talacre yn 1996.  
 
Mae鈥檙 rhaglen ail-gyflwyno yn ei thrydedd blwyddyn.  Mae鈥檙 unig boblogaethau 
eraill o lyffantod cefnfelyn yng Nghymru iw canfod yn Nhalacre a Gronant syn 
golygu bod yr ail-gyflwyno yn gam pwysig o ran datblygur boblogaeth yng 
Nghymru. 
 
Meddai Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn 
Thomas: 
 
 鈥淢ae gwaith partneriaeth rhwng gwirfoddolwyr, busnesau lleol ar Cyngor Sir yn 
ffordd amhrisiadwy o gadw ein hamgylchedd.  Diolch yn fawr iawn i鈥檙 
Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw sydd newydd roi 拢2,000 i wella un or 
ddau bwll dwr neu 鈥渂wll bas鈥 ar y safle ac i Network Rail sydd wedi addo 拢3,700 
er mwyn creu trydydd pwll bas ym mis Ionawr. 
 
Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Tim Johnson:
 
 鈥淐awsom ddiwrnod gwych, fu鈥檔 llwyddiant mawr. Hoffwn ddiolch i鈥檙 
Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw ac i Network Rail am fuddsoddi yn y 
rhywogaeth ac yn y safle.  Hoffwn hefyd ddiolch i鈥檙 t卯m ddaeth allan ddydd 
Mercher. Fe wnaeth pawb weithio yn galed iawn a gwneud cymaint o wahaniaeth. 
Mae鈥檙 ardal yn edrych yn well nag a wnaeth erioed.鈥 
 
Dywedodd Ecolegydd Signalu IP (De) Network Rail, Caitlin McCann: 
 鈥淢ae鈥檔 wych pan fydd cymaint o grwpiau, gyda blaenoriaethau amrywiol, yn gallu 
dod at ei gilydd i weithio tuag at un nod, yn yr achos yma, ychwanegiadau 
bioamrywiaeth ar gyfer y llyffant cefnfelyn ym Magillt. Roedd y t卯m o 
wirfoddolwyr yn awyddus i wneud gwahaniaeth gan fod llawer ohonynt yn gweithio 
yn lleol ar Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru ac maent wedi datblygu 
gwerthfawrogiad o鈥檙 amgylchedd a鈥檙 bioamrywiaeth ar a gerllaw鈥檙 rheilffordd. 
Roedd Tim a鈥檌 wirfoddolwyr yn gwybod cymaint am y rhywogaeth a鈥檙 mentrau 
bioamrywiaeth sydd ym Magillt ac mewn ardaloedd eraill ar hyd lein yr arfordir. 
Gadawodd pawb gan deimlo eu bod wedi cyflawni llawer!鈥