Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathlu Llwyddiannau Enillwyr Gwobrau Dug Caeredin
  		Published: 04/12/2017
Yn ddiweddar cyflwynwyd Gwobrau Dug Caeredin i 200 o bobl ifanc o bob rhan o 
Sir y Fflint mewn seremoni yng Ngwesty鈥檙 Springfield ger Treffynnon.
Sefydlwyd y  Wobr gan Ddug Caeredin ym 1956 ac erbyn hyn hwn yw鈥檙 cynllun 
gwobrwyo cyflawniad pobl ifanc mwyaf enwog yn y byd. 
Mae鈥檔 cynnig rhaglen wirfoddol, heb fod yn gystadleuol o weithgareddau ar gyfer 
pobl ifanc rhwng 14-24 oed ac mae tair lefel - efydd, arian ac aur. Mae pedair 
adran i bob gwobr - gwirfoddoli, sgiliau, corfforol ac alldaith - gall gymryd  
6 mis neu fwy i gwblhaur wobr efydd ac o leiaf 18 mis i gwblhaur wobr aur.  
Maen rhaid ir bobl ifanc sydd wedi cyrraedd lefel y wobr aur hefyd ymgymryd 芒 
gweithgaredd breswyl. 
Cyflwynydd y noson oedd Gary Williams, Swyddog Datblygu Gwobr Dug Caeredin 
Cyngor Sir y Flint, a chyflwynwyd y tystysgrifau gan Claire Homard, Prif 
Swyddog Addysg ac Ieuenctid Interim CSFf; Diane Aplin, Cyfarwyddwr WeMindTheGap 
ac Ann Roberts Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig Cyngor Sir y Fflint.
Cafwyd adloniant gan Rebecca Owen a Charlotte Roberts o Ysgol Uwchradd Gatholig 
Sant Richard Gwyn.
Llywyddion y  noson oedd Amelia James o Ysgol Maes Garmon a Grace Thomas o 
Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Meddai Claire Homard:
鈥淩ydw i wrth fy modd cael bod yma heno i ymuno yn y dathliadau ac i helpu i 
gyflwyno鈥檙 gwobrau hyn.   Mae鈥檔 galonogol dros ben gweld cymaint o bobl ifanc 
yn cymryd rhan yn y cynllun gwerth chweil hwn gan gyfoethogi eu bywydau yn 
ogystal 芒 gwella eu cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol .  Da iawn i chi i gyd!