Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint – eich cyfle i ddweud eich dweud
  		Published: 04/12/2017
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC) yn eich gwahodd i gymryd 
rhan  mewn ymgynghoriad ar ei Gynllun Lles Drafft.
Mae llunio Cynllun Lles yn un o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 
(Cymru) a rhaid cyhoeddi’r Cynllun erbyn Mai 2018. 
Nod y Cynllun Lles yw amlinellu sut y gall gwaith y bartneriaeth ddiogelu a 
gwella ansawdd bywyd trigolion, cymunedau a busnesau rwan ac yn y dyfodol.
Mae’r BGC yn bartneriaeth o 4 corff cyhoeddus sy’n gweithio gyda’i gilydd sef 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol 
Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ogystal â sefydliadau lleol 
eraill. 
Mae pum blaenoriaeth yn y Cynllun Drafft a chawsant eu dewis oherwydd mai yn y 
meysydd hyn y teimla’r  BGC y gellir ychwanegu’r mwyaf o werth, sef:
 
· Lles a Byw’n Annibynnol 
· Diogelwch Cymunedol 
· Cymunedau Hydwyth 
· Economi a Sgiliau 
· Yr Amgylchedd 
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
 
“Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o waith partneriaeth ac mae 
blaenoriaethau’r BGC yn cysylltu’n dda â Chynllun y Cyngor.  Mae’r Cymunedau yr 
ydym yn eu gwasanaethau, yn gwbl gywir, yn disgwyl i bartneriaid cyhoeddus a 
thrydydd parti weithio gyda’i gilydd,  rhannu blaenoriaethau, a thrwy 
gyd-ymdrechu, sicrhau fod pethau’n cael eu gwneud. Er mwyn gofalu ein bod yn 
gwneud pethau’n iawn, rwy’n croesawu eich adborth ac yn eich annog i gymryd 
rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y blaenoriaethau hyn a sut i roi eich 
adborth ar wefan Cyngor Sir y Fflint drwy 
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-and-Democracy/PSB-Draft-Well-be
ing-Plan-Public-Consultation.aspx.  Gallwch hefyd gysylltu â’ch canolfan Sir y 
Fflint yn Cysylltu leol neu’r Llyfrgell can y byddant yn gallu rhoi copi papur 
i chi ei lenwi.  Mae’r ymgynghoriad hefyd ar gael mewn fformatau eraill drwy 
ffonio 01352 702154.  Mae gennych hyd 2 Chwefror i gyfrannu a byddem yn 
gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr iawn.