Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Codi Mesurau Arbennig Mewn Dim o Dro
  		Published: 01/12/2017
Mae ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn dathlu heddiw wedi i Estyn gyhoeddi ei 
fod wedi codir Mesurau Arbennig yn yr amser lleiaf erioed. 
Yn dilyn ymweliad monitro diweddar, adroddodd Estyn yn 么l ar y gwelliannau mawr 
a chyflym a wnaed ers yr arolwg ym mis Mai 2016 a chyhoeddodd bod Ysgol 
Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn wedi cael ei thynnu o鈥檙 categori Mesurau 
Arbennig.  Yn dilyn cynnydd rhagorol yr ysgol mae Estyn wedi penderfynu nad yw 
ymweliadau monitro pellach yn angenrheidiol. 
Dywedodd y Pennaeth, Mr Paul Heitzman: 
 鈥淗offwn longyfarch holl aelodau ein cymuned ysgol.  Maent wedi gweithio鈥檔 
galed iawn dros y pedwar tymor diwethaf. Peth anarferol iawn yw gweld ysgol yn 
cyflawni gwelliannau mor gyflym. Mae hyn yn dilyn haf llwyddiannus iawn gyda鈥檔 
canlyniadau arholiad gorau erioed. Rwyf yn falch iawn o鈥檔 llwyddiannau i gyd. 
Mae Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn gryfach nag erioed ac yn barod i 
wynebu鈥檙 dyfodol 芒 hyder.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
 鈥淗offwn longyfarch llwyddiant Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn.  
Mae鈥檙 ysgol wedi gwneud cynnydd ardderchog dros y 18 mis diwethaf ac rwyf yn 
sicr y bydd ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad yr Esgobaeth Gatholig yn 
Wrecsam, yr athrawon, y staff cymorth a鈥檙 corff llywodraethu yn sicrhau bod yr 
ysgol yn mynd o nerth i nerth.鈥 
Ychwanegodd Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid:
  鈥淩wyf yn falch iawn o ganlyniad yr ymweliad monitro diweddar yn Ysgol 
Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn a鈥檌 bod wedi llwyddo i symud o鈥檙 categori 
Mesurau Arbennig mewn dim o dro. Mae hyn yn dyst i ymrwymiad y t卯m arwain, y 
staff, y llywodraethwyr a鈥檙 Esgobaeth Gatholig yn Wrecsam, maent i gyd wedi 
gweithio mewn partneriaeth agos 芒鈥檌 gilydd. Yn ogystal 芒 hyn, darparwyd 
cefnogaeth ymroddedig gan dimau arbenigol o fewn yr Awdurdod Lleol a鈥檙 
Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion, GwE.   Mae鈥檙 canlyniad hwn yn 
enghraifft ardderchog o鈥檙 hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio鈥檔 
effeithiol. Mi fydd hi鈥檔 braf gweld yr ysgol yn parhau ar y trywydd cywir ac yn 
parhau i wella.鈥