Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Teithio Cymunedol yn Parhau i Ehangu
  		Published: 04/12/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Chynghorau 
Cymuned Treuddyn, Llanfynydd, Coed-Llai a Phontblyddyn yn ogystal 芒 Brychdyn a 
Bretton i ddatblygu gwasanaeth teithio cymunedol newydd cynaliadwy ar gyfer yr 
ardal.  
Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi ar 28 Tachwedd ac mae鈥檔 gweithredu gyda 
llwybr ac amserlen sefydlog sy鈥檔 galluogi trigolion o鈥檙 ardal i gael mynediad a 
chysylltu 芒 gwasanaethau allweddol yng Nghanol Tref Yr Wyddgrug.  
Y cynllun hwn yw鈥檙 diweddaraf yn y fenter Teithio Cymunedol a ddatblygwyd gyda 
Chynghorau Cymuned a Thref yn Higher Kinnerton, Northop Hall, Cei Connah a 
Bwcle. 
Mae鈥檙 gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth 鈥渇fonio a theithio鈥 ar gyfer pobl 
sy鈥檔 methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn yr ardal. Bydd 
y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynd i apwyntiadau 
iechyd/meddygol. 
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn 
Thomas: 
 鈥淢ae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl 
ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi 
dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan 
tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth lle 
bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i鈥檙 dyfodol. Mae 
Cynlluniau Cludiant Cymunedol o鈥檙 fath yn hanfodol ac yn dod yn angen brys 
oherwydd yr hinsawdd economaidd o galedi parhaus.鈥
Mae paratoadau i ddatblygu cynllun cludiant cymunedol tebyg yn Nhreffynnon a鈥檙 
cyffiniau eisoes ar waith.  
Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau, ewch i:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin
tshire.aspx neu ffoniwch 01352 701234.
Cyngor Sir y Fflint yn lansio ei gludiant cymunedol diweddaraf yn Pontybodkin. 
Yn y llun: Jess Pritchard o鈥檙 Gwasanaeth Strydwedd ynghyd 芒 gyrrwr y bws, Jeff 
Price, y Cynghorydd David Hughes, y Cynghorydd Carolyn Thomas, y Cynghorydd Ray 
Hughes a pherchennog y bws, Mark Coates.