Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Campws Dysgu Treffynnon yn fuddugol unwaith eto
  		Published: 24/11/2017
Mae Campws Dysgu o鈥檙 radd flaenaf yn Nhreffynnon wedi ennill gwobr genedlaethol 
i Gyngor Sir y Fflint a鈥檌 gontractwr, Galliford Try.
Enillodd yr ysgol newydd y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Cenedlaethol 
diweddar Adeiladu Arbenigrwydd a鈥檜 cynhaliwyd yng Ngwestyr London Marriot ar 
Sgw芒r Grosvenor.  
Roedd hyn yn dilyn ennill y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Adeiladu 
Arbenigrwydd Cymru fis Gorffennaf, yn rhannol oherwydd y ffaith y cafodd dros 
50,000 tunnell o bridd ei hailddefnyddio ar gyfer tirweddu, syn cynrychioli 
99.9% o ailddefnyddio pridd ar y safle. Mae鈥檙 safle yn ailgylchu dwr glaw hefyd 
i dynnu dwr y toiledau ac mae 250 o baneli solar ar y to i gynhyrchu trydan.
 
Dywedodd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
 
 鈥淥鈥檙 cychwyn cyntaf, roedd Galliford Try yn sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael 
ei fewnosod ymhob agwedd o鈥檙 prosiect. Gadawodd y broses o ddymchwel yr hen 
ysgol uwchradd swm sylweddol o wastraff, ond cafodd 90 y cant or gwastraff ei 
hailgylchu. Nid dyna oedd diwedd y g芒n, cyflwynodd y prosiect 55 o gyfleoedd 
cyflogaeth ac 19 prentisiaeth yn ogystal 芒 sawl gweithgaredd addysgol a 
chymunedol.鈥
Dywedodd Ian Jubb, Rheolwr Gyfarwyddwr 鈥楤uilding North and Scotland鈥: 
Mae鈥檙 t卯m yn Nhreffynnon yn haeddu dipyn o glod am brosiect sydd wedi bod yn 
batrwm i鈥檞 efelychu. Mae鈥檙 wobr ychwanegol hon yn dangos bod eu cyflawniad wir 
yn arbennig ac rydym yn gobeithio bydd y gwersi rydym wedi eu dysgu yn cael eu 
defnyddio mewn meysydd eraill, gyda chynaliadwyedd wrth wraidd beth rydym yn 
gwneud.
Mae seremoni wobrwyo Adeiladu Arbenigrwydd yn ddathliad cenedlaethol gyda 108 o 
enillwyr rhanbarthol, fel Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru fis 
Gorffennaf, i gyd yn dod at ei gilydd i arddangos arfer orau a gwobrwyo 
cyflawniad ar draws sector adeiladwaith y Deyrnas Unedig. Enillwyr y gwobrau 
hyn yw gorau鈥檙 goreuon, mae鈥檙 broses Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd gyfan yn 
cynnwys dros 500 o sefydliadau o鈥檙 holl gadwyn gyflenwi - y sector cyhoeddus a 
phreifat; BBaCh micro a mawr; contractwyr, dylunwyr, cynghorwyr proffesiynol, 
cleientiaid, cyflenwyr - unrhyw un syn rhan o deulu estynedig adeiladwaith.
Dywedodd Milica Kitson, Prif Weithredwr Ynni Cymunedol Cymru: 
 鈥淩oedd hon yn noson arbennig i Gymru ac mae鈥檔 cadarnhau ein bod yn ganolfan 
ragoriaeth ar gyfer adeiladwaith ac yn esiampl i unrhyw un syn mabwysiadu 
arferion gwaith cydweithrediadol. Mae鈥檔 dystiolaeth o ymrwymiad y timau sy鈥檔 
gweithio oddi mewn, ond mae鈥檔 mynd llawer pellach na hynny. Mae Cymru yn gwneud 
mwy na鈥檙 disgwyl yn rheolaidd. Maen arwydd o gadernid ac awydd y sector 
adeiladu yng Nghymru i barhau i wella. Llongyfarchiadau i鈥檔 henillwyr o Gymru!鈥