Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru
  		Published: 22/11/2017
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol Cyngor Sir y Fflint 
wneud sylw ar gynnydd darpariaeth yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus 
Cymru pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf. 
Ar hyn o bryd maer Gwasanaeth Llyfrgell yn gweithredu model y mae鈥檙 Cyngor or 
farn ei fod yn bodloni anghenion cymunedol. Caiff hyn ei gydnabod gyda 99% o 
oedolion yn sgorio鈥檙 gwasanaeth fel bod yn dda neu鈥檔 ddau iawn (yr ail sg么r 
uchaf yng Nghymru) a gyda plant yn sgorio鈥檙 gwasanaeth yn 10 allan o 10 (y sg么r 
uchaf yng Nghymru). 
Fodd bynnag os yw gostyngiadau pellach yn cael eu gwneud oherwydd anghenion 
caledi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yna ni fydd y gwasanaeth yn gallu 
diwallu anghenion cymunedol a bydd perfformiad yn erbyn y safonau hyn yn 
dirywio鈥檔 sylweddol. Mae cadernid y gwasanaeth mewn peryg a chaiff hyn ei 
arddangos, oherwydd er bod y gwasanaeth yn cyflawni perfformiad da gyda鈥檌 
gyllideb gyfredol yn erbyn hawliau craidd a dangosyddion safon gyda thargedau, 
mae perfformiad ar draws meysydd eraill y fframwaith yn gymysg. 
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
 鈥淩ydw i鈥檔 falch bod y gwasanaeth llyfrgell wedi gwneud camau sylweddol ymlaen 
eleni, gyda gwelliannau wedi eu cynllunio yn erbyn y safonau o ran oriau agor a 
mynediad at fand eang. 
 鈥淢ae鈥檔 wych gweld bod y gwasanaeth yn cadw ei lefelau boddhad cwsmer uchel, ac 
yn gyntaf yng Nghymru o ran boddhad plant ac yn ail yng Nghymru o ran boddhad 
oedolion. Mae hyn yn ategu鈥檙 ffaith fod ein model llyfrgelloedd yn Sir y Fflint 
yn iawn, ac rydym yn gwybod bod y model hwn yn gynaliadwy yn erbyn gostyngiadau 
pellach sydd wedi eu cynllunio yn y gyllideb. 
 鈥淔odd bynnag byddai unrhyw effeithiau cyllidol oherwydd dull y DU o ddelio 芒 
chaledi ariannol, o bosib yn effeithio cadernid y gwasanaeth cymunedol pwysig 
hwn.