天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun y Cyngor 鈥 adroddiad canol blwyddyn

Published: 21/11/2017

Ddydd Mawrth, 21 Tachwedd, bydd Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd y Cyngor. Pob blwyddyn maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a gwella safonau byw ledled y sir. Mae adroddiad monitro dydd Mawrth yn darparu asesiad canol blwyddyn ac yn dangos pa un ai ywr Cyngor ar y trywydd cywir i gyflawnir effeithiau dymunol. Mae uchafbwyntiau鈥檙 flwyddyn ariannol bresennol yn cynnwys: 路 Cynllun Buddsoddi Safon Ansawdd Tai Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed, gyda 3,000 o geginau a 4,000 o ystafelloedd ymolchi wedi eu gosod yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi 路 Adeiladu tai newydd, gyda 18 o unedau fforddiadwy wedi eu codi a鈥檜 trosglwyddo i NEW Homes yn barod a 44 arall iw cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn 路 Cefnogi gofal sy鈥檔 canolbwyntio ar y cwsmer mewn 16 o gartrefi preswyl a 2 gartref nyrsio drwy ddarparu hyfforddiant a chanllawiau 鈥淧rogress for Providers鈥 路 Helpu aelwydydd Sir y Fflint i dderbyn dros 拢400,000 o incwm ychwanegol drwy fudd-daliadau 路 Darparu cymorth digidol i dros 500 o hawlwyr Credyd Cynhwysol a oedd angen cymorth i greu a defnyddio eu cyfrifon ar-lein 路 Cynnal 100% o asesiadau CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant ar Glasoed) o fewn y targed o 28 diwrnod 路 Gweithredu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru, sydd ar y trywydd cywir ac yn cael ei ehangu 路 Dull partneriaeth rhagweithiol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer defnyddio cronfeydd gofal canolraddol yn cael effaith gadarnhaol ar sicrhau pontio esmwyth ar gyfer cleifion rhwng yr ysbyty a gwasanaethau gofal cymdeithasol Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 鈥淒rwy Gynllun y Cyngor rydym ni鈥檔 blaenoriaethu meysydd a gwasanaethau sy鈥檔 bwysig i鈥檔 cymunedau an preswylwyr ac yn mesur pa mor dda rydym ni鈥檔 cyflawnir gwaith. 鈥淓r gwaethaf yr heriau ariannol parhaus, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn benderfynol o ddarparu ein blaenoriaethau, syn cynnwys cynorthwyo pobl gyda mynediad at dai fforddiadwy addas, addysg o ansawdd, hyfforddiant a chyflogaeth. Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: Mae perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda y maer Cyngor yn cyflawnir pethau sydd bwysicaf in cymunedau, gan adeiladu ar y ffaith mai ni oedd y cyngor a welodd y gwelliant mwyaf yn 2016/17, er gwaethaf y sefyllfa economaidd sydd ohoni.鈥