天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar y cynnig gofal plant

Published: 14/11/2017

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn adroddiad wedi鈥檌 ddiweddaru ar weithrediad cynnar llwyddiannus y Cyngor o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru a bydd gofyn iddynt gytuno ar ymestyn y cynnig i rannau eraill o鈥檙 Sir pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Roedd Sir y Fflint yn un o chwe Chyngor a lwyddodd yn eu cais i fabwysiadur cynllun yn gynnar ac maer cynnig yn cael ei beilota ar hyn o bryd gan Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys M么n, Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf. Nod y cynnig gofal plant 30 awr yw lliniaru ar effeithiau tlodi a lleihau anghyfartaledd. Bydd y cynllun peilot yn Sir y Fflint yn canolbwyntio ar roi鈥檙 cynnig ar brawf mewn ardaloedd o gyflogaeth isel ac uchel, ar draws rhwydweithiau teithio i鈥檙 gwaith, gan gynnwys teithio i ardaloedd y tu allan i Gymru, ac mewn amrywiaeth o leoliadau a gynhelir a lleoliadau nad ydynt yn cael eu cynnal. Hyd yma, mae Sir y Fflint wedi cael 215 o geisiadau ac mae wedi llwyddo i wneud y broses ymgeisio yn un awtomatig gan alluogi rhieni i gofrestru ar-lein a hunanddewis darparwyr gofal plant cofrestredig o鈥檙 134 o ddarparwyr cofrestredig. Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淥s bydd y broses gyflwyno yn cael ei chymeradwyo, bydd yn golygu fod y ffigwr targed gwreiddiol o 441 o blant yn cael ei gynyddu i 748 o blant. Mae鈥檙 gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma gan y T卯m Peilot Gofal Plant wedi bod yn arbennig a bydd hyn yn parhau i sicrhau fod y cynllun yn llwyddiannus. Mae cyflwyno鈥檙 cynllun hwn ymhellach yn golygu y gallwn sicrhau fod cymaint 芒 phosibl yn manteisio arno gan sicrhau ein bod yn helpu cymaint o deuluoedd sy鈥檔 gweithio 芒 phosibl. Byddwn yn parhau i roi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo鈥檙 cynnig mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys cyflwyniadau mewn ysgolion, cynghorau tref a chymuned a darparwyr gofal plant.鈥 Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Sir y Fflint yn gweithio鈥檔 galed i gefnogi teuluoedd lleol. Byddwn yn helpu teuluoedd sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed i gydbwyso magu plant gyda gofal plant ar gyfer anghenion gwaith i fod yn fwy hyblyg yn ogystal ag yn fwy fforddiadwy. Mae ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi mwy o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant nac erioed o鈥檙 blaen yn gam allweddol wrth gyflawni鈥檙 ymrwymiad hwnnw.鈥