Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwaith ffordd ym mis Rhagfyr
  		Published: 10/11/2017
Oherwydd y cynnydd mewn traffig mewn canol trefi ar cyffiniau dros gyfnod y 
Nadolig, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyfyngu ar y gwaith ffordd sydd wedii 
drefnu ar lwybrau strategol ym mis Rhagfyr.  Bydd y gwaharddiad yn cwmpasu鈥檙 
prif ffyrdd yn Sir y Fflint ac, yn benodol, llwybrau mawr i mewn i ganol trefi. 
 
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd 
Carolyn Thomas: 
 鈥淩ydym wedi bod yn gweithion agos gyda hyrwyddwyr gwaith er mwyn sicrhau y 
caiff prosiectau mawr eu cwblhau neu eu gohirio erbyn 1 Rhagfyr.  Hoffem 
ddiolch i鈥檙 cwmn茂au cyfleustodau am eu cydweithrediad. Yn ystod y cyfnod prysur 
hwn, mae鈥檔 bwysig ceisio lleihau amhariad i鈥檔 rhwydwaith a chefnogi busnesau a 
masnachwyr lleol. Bydd y gwaharddiad yn dechrau ar 2 Rhagfyr ac yn rhedeg tan 2 
Ionawr, gan leihau tagfeydd ar ein ffyrdd drwy gydol cyfnod y Nadolig.鈥