天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Teithio Cymunedol Penyffordd - Bwcle

Published: 14/11/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymuned Penyffordd a Chyngor Tref Bwcle ac yn ddiweddar dathlwyd fod gwasanaeth teithio cymunedol newydd cynaliadwy wedi ei gyflwyno ar gyfer yr ardal. Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi ar 30 Hydref 2017 ac mae鈥檔 gweithredu gyda llwybr ac amserlen sefydlog sy鈥檔 galluogi trigolion o ardaloedd Penyffordd, Penymynydd, Little Mountain a Bwcle i gael mynediad a chysylltu 芒 gwasanaethau allweddol yng Nghanol Tref Bwcle. Y cynllun hwn yw鈥檙 diweddaraf yn y fenter Teithio Cymunedol a ddatblygwyd gyda Chynghorau Cymuned a Thref yn Higher Kinnerton, Northop Hall a Chei Connah. Mae鈥檙 gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth 鈥渇fonio a theithio鈥� ar gyfer pobl sy鈥檔 methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn yr ardal. Bydd y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynd i apwyntiadau iechyd/meddygol. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 鈥淢ae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth lle bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i鈥檙 dyfodol. Mae鈥檔 dod yn angen brys gan fod y toriadau llymder diweddaraf wedi eu cyhoeddi a fydd yn effeithio ar allu Cyngor Sir y Fflint i barhau 芒 chymorthdaliadau bws.鈥� Mae paratoadau ar gyfer cynlluniau tebyg wedi bod ar y gweill ers tro mewn rhannau eraill o鈥檙 Sir, ac mae cymunedau Treuddyn, Llanfynydd a Threffynnon i gyd yn gweithio gyda鈥檙 Cyngor i ddatblygu rhagor o gynlluniau teithio cymunedol. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau peilot, ewch i: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin tshire.aspx neu ffoniwch 01352 701234.