Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mae Pwyllgor Safonau Sir y Fflint eich eisiau chi!
  		Published: 06/11/2017
A oes gennych ddiddordeb brwd mewn safonau ym mywyd cyhoeddus ac yn dymuno 
gwasanaethu鈥檙 gymuned leol a chynnal democratiaeth leol?  
Mae gan Gyngor Sir y Fflint ac Awdurdod T芒n ac Achub Gogledd Cymru swyddi gwag 
i aelodau annibynnol wasanaethu ar eu Pwyllgorau Safonau.
Mae鈥檙 Pwyllgor Safonau鈥檔 bwriadu hyrwyddo, cynnal a gwella safonau ymddygiad 
aelodau o鈥檙 Awdurdod. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos 
gwrthrychedd, annibyniaeth ac amhleidioldeb, gyda sgiliau gwrando da a gweithio 
mewn t卯m.  
Dywedodd Prif Swyddog Llywodraethu Cyngor Sir y Fflint, Gareth Owens:
鈥淢ae鈥檙 dull ar y cyd hwn yn eithaf unigryw ac rydym yn gobeithio y bydd y ddau 
sefydliad yn gallu rhannu syniadau, arfer da a buddsoddi mewn hyfforddiant a 
datblygur aelodau annibynnol.  Wrth fod ynghlwm wrth fwy nag un sefydliad, 
bydd y r么l yn fwy amrywiol a diddorol.鈥
Mae yna sawl rheswm dros gyfranogi, yn cynnwys:
鈥 ehangu ar eich gwybodaeth a鈥檆h profiad;
鈥 gwella eich CV a datblygiad gyrfa; 
鈥 rhoi rhywbeth yn 么l drwy rannu eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad; 
鈥 gweithio gyda phobl newydd ac ennill profiad o wahanol ddulliau sefydliadol; 
鈥 rhwydweithio gyda grwp ehangach o bobl; neu 
鈥 fel man cychwyn i gyfranogi gyda phwyllgorau eraill neu gyrff adolygu 
annibynnol. 
Gall Aelodau hawlio costau teithio a chynhaliaeth. 
Os hoffech wybod mwy am ddod yn aelod annibynnol, e-bostiwch neu ffoniwch:
Alwen Davies 
Awdurdod T芒n ac Achub Gogledd Cymru      
E-bost:  alwen.davies@nwales-fireservice.org.uk 
Ff么n: 01745 535286
Gareth Owens
Cyngor Sir y Fflint
E-bost: Gareth.legal@flintshire.gov.uk 
Ff么n: 01352 702344
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am, 13 Tachwedd 2017 ac mae manylion ar 
sut i wneud cais ar gael yma: 
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-and-Democracy/Standards-Committ
ee-Appointments.aspx