Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cymunedau yn Gyntaf a Strydwedd yn dod at ei gilydd i gynnig hyfforddiant
  		Published: 06/11/2017
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a th卯m Strydwedd y Cyngor wedi bod yn 
cydweithio i greu cyfle newydd cyffrous i bobl allu cychwyn ar y llwybr tuag at 
waith.
Gyda鈥檌 gilydd, maen nhw鈥檔 cynnig cwrs a fydd yn rhoi cyfle i drigolion lleol 
ddysgu sgiliau a chael hyfforddiant a phrofiad yn ymwneud 芒 gwaith yn yr adran 
Strydwedd. 
Mae鈥檙 cwrs tair wythnos yn dechrau ddydd Mawrth, 14 Tachwedd yn Nepor Cyngor 
yn Alltami (CH7 6LG), 9:30am tan 4pm.
Os hoffech chi ychwanegu at eich CV gyda hyfforddiant achrededig a chyfleoedd 
am brofiad gwaith, yna dymar cyfle i chi.
Yn yr wythnos gyntaf, bydd hyfforddiant ar nifer o bynciau, gan gynnwys codi a 
symud yn gorfforol, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a gwasanaeth cwsmeriaid.
Bydd cyfle wedyn i gael profiad gwaith ar ddiwrnodau blasu yn ystod yr ail 
wythnos.
Yn olaf, yn y drydedd, bydd cwrs trimio a hyfforddiant ar ddelio 芒 gwastraff 
cyffredinol.  Bydd hefyd yn cynnwys cymorth gyda鈥檆h CV, datblygu hyder, sgiliau 
cyflogadwyedd a chyfweliadau ffug, lleoliadau gwaith a chyfle i wneud cais am 
swyddi gwag o fewn yr adran Strydwedd.
I gael gwybod mwy ac i gofrestru, cysylltwch 芒 Nia Parry o Gymunedau yn Gyntaf 
ar 01244 846090 neu anfon e-bost at nia.parry@flintshire.gov.uk