Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Glan y Morfa yn edrych yn dda
  		Published: 01/11/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o 
gontractwyr adeiladu er mwyn cynorthwyo i orffen y gwaith diweddaru sydd angen 
wneud ar ein stoc dai.   
Mae鈥檙 contractwyr yn gweithio ar y Safon Ansawdd Tai Cymru sy鈥檔 safon 
genedlaethol ar gyfer cartrefi a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae鈥檙 gwaith yn 
rhoi swyddi a phrentisiaethau i bobl leol. 
Yn ogystal 芒 hynny mae鈥檔 contractwyr wedi bod yn cynorthwyo cymunedau mewn 
amrywiol ffyrdd.   
Mae Wates Living Space, darparwyr atgyweirio a chynnal a chadw, wedi bod yn 
gweithio ar waith gwella yn Glan y Morfa Court yng Nghei Connah.  Maent hefyd 
wedi treulio amser ar waith gwella ar gyfer rhodfa tan orchudd ar ardd 
gymunedol, ac wedi darparu planhigion a mainc newydd fel gall y preswylwyr 
eistedd a mwynhau鈥檙 ardd. 
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淢ae safon y gwaith a gyflawnwyd yn dda iawn, a hoffwn ddiolch i Peter Bates, 
clerc gwaith Sir y Fflint, a鈥檔 contractwyr Wates Living Space 鈥 mae eu gwaith 
mewn partneriaeth ac ymrwymiad i鈥檔 cymunedau lleol yn cael ei werthfawrogi, ac 
rwy鈥檔 siwr y bydd y preswylwyr yn falch iawn o鈥檜 gardd 鈥渘ewydd鈥.
Dywedodd David Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wates Living Space: 
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn gosod y safon ar gyfer gwelliannau i dai lleol, ac 
mae鈥檔 foddhaol iawn gweld yr effaith gadarnhaol y mae鈥檔 ei gael ar y gymuned 
leol. 
鈥淓rs i ni ddechrau gweithio yn Sir y Fflint, rydym wedi ymrwymo i adnabod 
ffyrdd y gallwn effeithion gadarnhaol yn y sir.  Mae ein gwaith yn yr ardd 
gymunedol yng Nghei Connah yn enghraifft wych o鈥檙 etifeddiaeth gadarnhaol yr 
ydym eisiau ei adael fel rhan on gwaith yn Sir y Fflint. Rydym yn gobeithio y 
bydd pawb yn mwynhau鈥檙 ardd am nifer o flynyddoedd.鈥