Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad Cyngor Sir Y Fflint ar Gyllideb 2018/19
Published: 24/10/2017
Ers y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn dweud yn gyhoeddus nad yw
safler gyllideb yn gynaliadwy a bod gwasanaethau lleol o dan fygythiad
difrifol. Drwy gyfuniad o fod yn ddyfeisgar wrth drefnu ein hunain a鈥檔
gwasanaethau i arbed arian, gwneud y gorau on hadnoddau a chael cefnogaeth
wych gan ein cymunedau wrth groesawu newid ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am
ddarparu gwasanaethau drostyn nhw eu hunain - er enghraifft drwy
drosglwyddiadau asedau cymunedol, rydyn ni wedi dod drwyddi. Efallai mai
2018/19 fydd y flwyddyn i her y gyllideb fod yn rhy fawr.
Rydym yn wynebu toriad yn ein grant Llywodraeth Cymru a does gennym ni ddim
diogelwch yn erbyn costau chwyddiant a鈥檙 galw cynyddol am wasanaethau megis
gofal cymdeithasol. Rydym yn wynebu bwlch yn y gyllideb o tua 拢13-14M. Dyma
ganlyniad cyflawni effeithlonrwydd llwyddiannus yn y gyllideb o tua 拢80M dros y
degawd diwethaf. Mae鈥檔 afresymol rhoi cynghorau yn y sefyllfa hon. Mae gan
lywodraethau gyfrifoldeb i ariannu cynghorau鈥檔 gywir er mwyn darparu
gwasanaethau lleol i ddiwallu anghenion a hawliau cymunedau a dinasyddion.
Mae pob cyngor ar draws y sir yn wynebu heriau mawr yn y gyllideb. Rydym wedi
gwneud achos cryf, fel cyngor a gaiff ei ariannun isel yng Nghymru, bod Sir Y
Fflint yn benodol o agored i effeithiau toriadau gwariant cyhoeddus o un
flwyddyn ir llall. Mae gennym gefnogaeth leol ar gyfer yr achos hwn.
Rydyn ni wrthi鈥檔 cwblhau cam cyntaf cynllun ein cyllideb ar gyfer 2018/19, gyda
拢3M o arbedion wedi鈥檜 nodi. Rydym bellach yn gweithio ar yr ail gam. Maen
rhaid i ni ystyried cynnig dim ond cyllideb arian gwastad鈥� i ysgolion, heb
unrhyw gyllid ychwanegol iddyn nhw fodloni eu costau chwyddiant eu hunain,
cyfyngu ar fynediad at rai gwasanaethau, codi rhywfaint o daliadau gwasanaeth,
ac o bosib y cynnydd blynyddol mwyaf i Dreth y Cyngor yn Sir Y Fflint am rai
blynyddoedd. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, ac oni fydd polisi鈥檙 Llywodraeth
yn newid, nid dyma fydd ei diwedd hi, oherwydd bydd bwlch yn y gyllideb i鈥檞
chau o hyd. Gallai trydydd cam a cham olaf y gyllideb, yn y Flwyddyn Newydd,
olygu bod cyfleusterau a gwasanaethau lleol yn cau. Dyma lefel y bygythiad
rydyn nin ei wynebu.
Eto, rydyn ni鈥檔 galw ar Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ym maes gofal
cymdeithasol ac ysgolion yng Nghymru, i wella Setliad Dros Dro Llywodraeth
Leol, i roi rhyddid lleol i gynghorau adfer costau drwy godi t芒l, er enghraifft
ym maes gofal cartref, ac i ddychwelyd cyfran or Lwfans Treth Prentisiaid ar
gyfer cynghorau fel cyflogwyr i ariannu eu cynlluniau prentisiaeth eu hunain.
Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,
Cymdeithas Llywodraeth Leol, cymuned o gynghorau lleol ar draws Cymru a Lloegr,
yr Undebau Llafur cydnabyddedig, gweithlu Llywodraeth Leol, a鈥檙 grwpiau
buddiant niferus sy鈥檔 gofalu am wasanaethau cyhoeddus 鈥� i roi pwysau ar
Lywodraeth y DU i wrthdroi ei bolisi o gynildeb a rhoi digon o gyllid ir
Llywodraeth Leol 鈥� i achub y dydd.