Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn arwyddo Cyfamod
Published: 24/10/2017
Yn ddiweddar fe arwyddodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru Gyfamod y
Lluoedd Arfog Sir y Fflint yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug.
Mae arwyddor Cyfamod hwn yn golygu bod y Gwasanaeth T芒n ac Achub yn ymuno 芒
Chyngor Sir y Fflint i ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn Sir y
Fflint.
Roedd cynrychiolwyr o鈥檙 Lluoedd Arfog, gweithwyr y Cyngor, Swyddogion Cyswllt
Rhanbarthol y Lluoedd Arfog a Chefnogwr Lluoedd Arfog y Cyngor y Cynghorydd
Andy Dunbobbin yn bresennol yn y digwyddiad.
Mae arwyddo鈥檙 Cyfamod yn cynrychioli ymrwymiad cadarn gan Wasanaeth T芒n ac
Achub Gogledd Cymru i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog gan gydnabod gwerth
milwyr syn gwasanaethu 鈥 yn cynnwys yr aelodau rheolaidd a rhai wrth gefn, cyn
filwyr a theuluoedd milwrol au cyfraniad ir wlad.
Tra鈥檔 siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru
wedi ymuno 芒 18 llofnodwr arall i gefnogi Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint.
Mae gennym Grwp Llywio gweithgar a brwdfrydig ac rydym wedi cymryd camau
sylweddol tuag at hyrwyddo鈥檙 Cyfamod a sicrhau bod gweithwyr a鈥檙 cyhoedd yn
ymwybodol o anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog.
鈥淩ydym yn edrych ymlaen i鈥檙 Gwasanaeth T芒n ac Achub fod yn rhan weithgar ac i
gydweithio 芒 ni i godi ymwybyddiaeth am y Cyfamod, anrhydeddu cyflawniadau
Cymuned y Lluoedd Arfog a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iw bywydau鈥.
Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog T芒n:
鈥淩oedd hi鈥檔 anrhydedd arwyddo鈥檙 cytundeb hwn. Ein blaenoriaeth ydi darparu鈥檙
gwasanaeth t芒n ac achub gorau posibl i gymunedau gogledd Cymru gan weithio i
leihau nifer yr achosion argyfwng sy鈥檔 digwydd ac ymateb i argyfyngau pan
fyddant yn digwydd. Ein gweithlu ymroddedig ac amrywiol sydd yn ein galluogi i
wneud hyn ac felly rydym yn cydnabod gwerth cefnogi ein gweithwyr o gefndir
milwrol, sydd 芒 llawer o sgiliau trosglwyddadwy a gwerthfawr yn sgil eu
hyfforddiant milwrol.
鈥淢ae arwyddo鈥檙 cyfamod yma鈥檔 dangos ein hymrwymiad i gynnal y prif egwyddorion
sy鈥檔 ymwneud 芒 gweithio a gweithredu ynghyd 芒 phartneriaid eraill yng ngogledd
Cymru i gefnogi鈥檙 lluoedd arfog a鈥檌 gymuned ehangach鈥.
Mae鈥檙 Cyfamod yn ymrwymiad gan y wlad na ddylai aelodau o gymuned y Lluoedd
Arfog wynebu unrhyw anfantais oi gymharu 芒 dinasyddion eraill wrth ddarparu
gwasanaethau ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig
ir rhai sydd wedi rhoi鈥檙 mwyaf. Fe arwyddodd Cyngor Sir y Fflint y Cyfamod ym
mis Gorffennaf 2013.