Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prif Wobr i Ysgol Sir y Fflint
Published: 19/10/2017
Mae Ysgol Gwynedd yn Fflint wedi鈥檌 dyfarnu 芒鈥檙 radd uchaf yn dilyn asesiad gan
sefydliad Buddsoddwyr Mewn Pobl.
Cafodd yr ysgol ei hasesu yn erbyn safon Iechyd a Lles Buddsoddwyr Mewn Pobl,
gan gyflawni Gwobr Platinwm am Berfformiad Da. Caiff y lefel hon ei dyfarnu i
lai na 2% o sefydliadau dros y byd i gyd. Mae鈥檙 wobr yn edrych ar
arweinyddiaeth yr ysgol a鈥檙 cyfleoedd i staff a disgyblion aros yn iach, yn
gorfforol ac yn feddyliol.
Dywedodd y pennaeth, Jeremy Griffiths:
鈥淩ydym yn falch iawn o鈥檙 cyflawniad hwn. Mae鈥檔 wych cael archwiliad allanol ac
i gael ein meincnodi yn erbyn arfer gorau syn arwain y sector. Mae pawb yn yr
ysgol yn gwneud cyfraniad sylweddol i sicrhau ein bod ni i gyd yn 鈥淭yfu, Dysgu,
Llwyddo, Gydan Gilydd, sef arwyddair yr ysgol. Mae popeth a wnawn yn cael
effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i鈥檔 disgyblion.鈥
Nododd yr adroddiad sawl nodwedd ragorol, yn cynnwys sylwadau cadarnhaol gan
staff. Nododd yr aseswr, Sarah Botterill, y canlynol:
鈥淢ae gwerthoedd Ysgol Gwynedd yn glir, wedi鈥檜 cyfathrebu鈥檔 dda ac wedi鈥檜 deall.
Mae gwerthoedd wedi鈥檜 hymgorffori ac yn darparur sylfaen ar gyfer y diwylliant
cadarnhaol sydd yno. Mae鈥檙 ysgol wedi cysylltu amcanion strategol yr ysgol
(canlyniadau disgyblion) yn glir 芒 lles y staff syn gweithio yno.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 Wobr Blatinwm hon am 鈥淏erfformiad Da鈥 yn anrhydedd teilwng, ac mae staff
a disgyblion Ysgol Gwynedd wedi gweithio鈥檔 galed iawn dros lawer o flynyddoedd
i ymgorffori iechyd a lles wrth wraidd popeth a wnawn. Mae hon yn gamp enfawr
ir ysgol ac yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono fel sir.鈥
Dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint, Claire Homard:
鈥淢aent wir yn haeddur wobr hon, ac maen adlewyrchiad cadarnhaol ar ansawdd yr
arweinyddiaeth ar gwaith t卯m yn Ysgol Gwynedd i gadw iechyd a lles cymuned yr
ysgol gyfan ar flaen y gad o ran rhaglen yr ysgol. Rwy鈥檔 llongyfarch y
pennaeth, y staff, y llywodraethwyr a disgyblion yn Ysgol Gwynedd.鈥