Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 鈥14-21 Hydref 
  		Published: 17/10/2017
Mae hi鈥檔 Wythnos Ymwybyddiaeth O Droseddau Casineb Cenedlaethol yr wythnos hon, 
amser tynnu sylw at drosedd casineb, annog dioddefwyr i adrodd ac i atal 
tramgwyddwyr 
Mae Cyngor Sir Y Fflint yn ymuno 芒 phartneriaid ar draws y rhanbarth, gan 
gynnwys awdurdodau lleol eraill, Heddlu Gogledd Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr, 
i weithio gyda鈥檌 gilydd i dynnu sylw at faterion trosedd casineb a hyrwyddo 
pobl i adrodd i鈥檙 Heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr. 
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd sydd wedii dargedu at unigolyn oherwydd 
gelyniaeth neu ragfarn tuag atynt.  Gall anabledd, tras neu ethnigrwydd, 
crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu drawsrywedd unigolyn achosir rhain. 
Gall y drosedd fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod 
i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu 
alwadau ff么n.
Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淒erbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau 
casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod 
dioddef yn dawel. Er bod lefelau troseddau casineb yn eithaf isel yn y sir, 
rwyn falch o weld ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru 
a Heddlu Gogledd Cymru i godi proffil y mater pwysig a pherthnasol hwn.鈥
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn ddioddefwr trosedd casineb, mae 
nifer o ffyrdd i adrodd amdano: 
路 Ffonio鈥檙 Heddlu yn uniongyrchol drwy ddeialu 999 os ydych mewn perygl brys, 
neu 101 ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys, neu gwblhau ffurflen 
adrodd ar-lein Heddlu Gogledd Cymru y gellir ei weld yma 
https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/hate-crime?lang=c
y-gb 
路 Ffonio:  0300 30 31 982 [Yn rhad ac am ddim, 24/7] i gysylltu 芒 Chymorth i 
Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol ac mae 
gennych chi鈥檙 opsiwn i barhau鈥檔 ddienw. 
路 Gallwch hefyd adrodd ar-lein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk