Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol 2017
  		Published: 13/10/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu cyhoeddus 
ynglyn 芒r dyfodol. Yn y cyfarfodydd hyn, byddwn yn rhannu ein sefyllfa, yn 
egluro ein cynllun ac yn gofyn am eich cefnogaeth. 
Mae popeth mae鈥檙 Cyngor yn ei wneud yn bwysig i rywun ac mae Sir y Fflint yn 
ymfalch茂o o fod yn gyngor sy鈥檔 perfformio鈥檔 dda ar gyfer ei gymunedau lleol ac 
un sy鈥檔 cael ei gymell gan werthoedd cymdeithasol cryf. 
Bydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, a鈥檙 Prif Weithredwr, Colin 
Everett, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, allan mewn cymunedau lleol yn 
cyfarfod sefydliadau cymunedol, busnesau cymunedol a phobl leol i drafod 
cynlluniaur Cyngor dros y pum mlynedd nesaf ar heriau ariannol parhaus maen 
eu hwynebu. 
I gael gwybod mwy, gallwch gofrestru i ddod i un o saith digwyddiad ymgysylltu 
cyhoeddus a gynhelir mewn lleoliadau ledled y Sir.    
Er bod pob digwyddiadau wedi鈥檜 cynllunio gan ystyried cymunedau penodol, 
peidiwch 芒 phoeni os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad ar gyfer eich 
ardal leol chi.  Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y dyddiad a/neu leoliad 
sy鈥檔 gweddu orau i chi.   Bydd pob cyfarfod yn cael ei gynnal o 6.30pm tan 
8.30pm:
Dydd Mawrth 24 Hydref  Ysgol Gwynedd, y Fflint 
Dydd Iau 26 Hydref   Ysgol Maes y Felin, Treffynnon
Dydd Llun 6 Tachwedd  Ysgol Bryn Coch, yr Wyddgrug
Dydd Mercher 8 Tachwedd Ysgol Mountain Lane, Bwcle 
Dydd Llun 13 Tachwedd  Ysgol Sandycroft
Dydd Mawrth 14 Tachwedd Ysgol Cae鈥檙 Nant, Cei Connah 
Dydd Mawrth 21 Tachwedd Ysgol Gynradd Brychdyn
Niferoedd cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch le nawr.   Gallwch 
wneud hyn drwy ymweld 芒 gwefan Cyngor Sir y Fflint ar 
www.siryfflint.gov.uk/EinSiryFflint17 ac archebu lle ar-lein neu fe allwch 
ffonio 01352 701701 i gofrestru.