Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn
Published: 11/10/2017
Ar 20 Hydref 2017 bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi Gorchymyn Gwarchod Mannau
Cyhoeddus ar waith mewn perthynas 芒 baw cwn a rheoli cwn.
O鈥檙 dyddiad hwn ymlaen, bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn disodli鈥檙
hen Orchymyn Rheoli Cwn i greu ymagwedd fwy cynhwysfawr a chyson wrth ymdrin 芒
materion megis baw cwn, cadw cwn ar dennyn a gwahardd cwn o lefydd penodol.
Yn fras, maer gorchymyn yn ymdrin 芒r canlynol:
Bydd gofyn i berson syn gyfrifol am gi gadw at yr amodau canlynol:
1. Codi gwastraff eu ci o鈥檙 holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint
2. Peidio 芒 gadael i gi fynd ar y tiroedd canlynol:
a. tir ysgolion
b. caeau chwaraeon wedi eu marcio (caniateir cwn y tu allan i鈥檙 ardaloedd wedi
eu marcio)
c. ardaloedd chwarae ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys, ond nid yn
gyfyngedig i, lawntiau bowlio a chyrtiau tenis
d. mannau chwarae plant gydag offer
3. Cadw eu ci ar dennyn mewn mynwent.
4. Sicrhau bod ganddynt fodd priodol o godi baw ci
5. Rhoi eu ci ar dennyn, pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud
hynny, os yw鈥檙 ci yn rhydd ac yn niwsans neun poeni unrhyw unigolyn, aderyn
neu anifail arall
Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淢ae baw cwn yn broblem fawr yn ein cymunedau. Mae鈥檙 rhan fwyaf o berchnogion
yn gyfrifol ond mae鈥檙 gorchymyn hwn yn ein galluogi ni i weithredu yn erbyn y
rheiny sy鈥檔 anghyfrifol. Does gan berchnogion cwn cyfrifol ddim i鈥檞 boeni yn ei
gylch yn sgil y gorchymyn hwn鈥.
Bydd y gorchymyn yn weithredol am gyfnod o dair blynedd o鈥檙 dyddiad cychwyn,
sef 20 Hydref 2017.
Mae unrhyw berson a ganfyddir yn euog o dorri鈥檙 gorchymyn yn agored ar gollfarn
ddiannod i ddirwy o hyd at 拢1,000. Bydd torri unrhyw un o鈥檙 amodau uchod yn
arwain at gyhoeddi hysbysiad cosb benodedig o 拢75 gan swyddog awdurdodedig.