天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau yn Gyntaf 鈥� beth sydd gan y dyfodol iw gynnig

Published: 13/10/2017

Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter i drafod adroddiad ar ddyfodol Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth. Cychwynnwyd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 thlodi mewn ardaloedd difreintiedig o Gymru yn Sir y Fflint yn 2002. Maer rhaglen ar fin dod i ben ym mis Mawrth 2018. Mae cyllid ar gyfer y rhaglen ESGYN i helpu pobl ddi-waith yn 么l i waith hefyd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Bydd y rhaglen Cymunedau dros Waith yn parhau i weithredu yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf tan fis Mawrth 2020. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dwy raglen newydd ar 1 Ebrill 2018. Y cyntaf yw鈥檙 Gronfa Etifeddol a fydd yn cynnig cyllid ar raddfa fach i alluogi Cyngor Sir y Fflint i barhau i redeg gweithgareddau Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi profi鈥檔 werth eu gwneud am ddwy flynedd arall. Bydd yr ail raglen, y Rhaglen Gyflogadwyedd yn rhoi seilwaith rheoli i raglen Cymunedau dros Waith ac yn cyllido cymorth ychwanegol i bobl ddi-waith mewn ardaloedd difreintiedig tan fis Mawrth 2020. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn rhaglen hynod o boblogaidd yn Sir y Fflint gyda bron i 4,000 o bobl yn derbyn cefnogaeth a 382 o bobl yn darganfod gwaith, ynghyd 芒 Rhwydwaith Menter Busnes yn cefnogi 120 o bobl ac yn helpu i sefydlu 25 o fusnesau newydd 鈥� i enwi dim ond rhai o鈥檙 cyflawniadau gwych. Mae llawer o鈥檙 rhaglenni hyn wedi bod yn gweithio gyda鈥檙 rhai sydd fwyaf dan anfantais a鈥檙 unigolion hynny sydd wedi ymrwymo lleiaf yn eu cymunedau. 鈥淵n Sir y Fflint eleni rydym wedi canolbwyntio ar gymorth cyflogaeth, datblygu sgiliau, profiad gwaith a datblygu mentrau cymdeithasol ac maer cynigion gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn dda 芒r hyn a wnawn yn Sir y Fflint. Mae cyllid ar gyfer Cymunedau dros Waith a鈥檙 Gronfa Etifeddol wedi鈥檌 gyhoeddi, ond nid yw cyllid ar gyfer y Rhaglen Gyflogadwyedd wedii ryddhau eto. Bydd y rhaglenni newydd angen cymhareb staff tebyg i鈥檙 hyn sydd eisoes yn ei le. Gall y rolau fod yn wahanol yn y rhaglenni newydd ir rhai yn y strwythur presennol a bydd angen ailstrwythuro鈥檙 t卯m ymhellach.