天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Rhaglenni Effeithlonrwydd Ynni

Published: 11/10/2017

Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint adolygu a thrafod adroddiad ar raglenni effeithlonrwydd ynni domestig a ddarperir yn Sir y Fflint, pan fydd yn cyfarfod y mis hwn. Mae鈥檙 adroddiad yn crynhoi rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig a ddarparwyd i aelwydydd mewn tai Cyngor a thai sector preifat yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfanswm o 4,325 o aelwydydd wedi cael cefnogaeth yn y pum mlynedd ddiwethaf. Bydd y mesurau a osodwyd yn arbed 拢1.2 miliwn iddynt bob blwyddyn am oes y mesurau a osodwyd, ac yn arbed dros 123,000 tunnell fetrig o allyriadau carbon deuocsid. Mae鈥檙 prif raglenni yn cynnwys: 路 Paneli ffotofoltaidd solar (solar PV) 鈥 gosodwyd ar 1,106 o eiddo Cyngor; 路 Inswleiddio wal allanol (EWI) ac insiwleiddio atig, gan gynnwys y tri bloc fflatiau yn y Fflint; 路 Cynlluniau mewnlenwad nwy 鈥 gwresogi nwy o鈥檙 prif gyflenwad yw un o鈥檙 mathau rhataf o wresogi ac mae 476 o eiddo wedi鈥檜 cysylltu 芒鈥檙 rhwydwaith nwy yn chwe ardal y sir; 路 Cynlluniau arbrofol nad ydynt ar y prif rwydwaith 鈥 lle nad oedd yn ymarferol i gysylltu eiddo 芒鈥檙 prif rwydwaith, arbrofwyd 芒 dewisiadau eraill ac eithrio tanwydd ffosil mewn 26 eiddo ym mhentrefi Gwespyr a Gwaenysgor; 路 Lansiodd y Cyngor y Gronfa Argyfwng Gwres Fforddiadwy yn 2013 sy鈥檔 ariannu ymweliadau 芒鈥檙 cartref i roi cyngor a chefnogaeth gweithiwr achos. Ers ei gychwyn, mae wedi helpu 887 o bobl a gosodwyd 2,655 o welliannau; 路 Yn 2015, cafodd y Cyngor gyllid ar gyfer y rhaglen Cartrefi Iach, Pobl Iach 鈥 mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i gynyddu gwres fforddiadwy a lleihau anghydraddoldeb iechyd y gellir ei osgoi. Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: 鈥淪ir y Fflint yw鈥檙 awdurdod lleol cyntaf yn y wlad i gael statws Partner Tlodi Tanwydd gyda鈥檙 rhwydwaith dosbarthu nwy yn ein hardal. Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor gynnig taleb Cymorth Cartrefi Cynnes ei hun, sy鈥檔 cynnig cyfraniad i aelwydydd mewn tlodi tanwydd ar gyfer talu costaur cysylltiad nwy. 鈥淓r y pwysau economaidd heriol, bydd y Cyngor yn parhau i gynnig cefnogaeth bellach i denantiaid y Cyngor ac mae鈥檔 datblygu rhaglen tymor hirach a fydd yn cael ei chynnal ochr yn ochr 芒 rhaglen gwella tai Safon Ansawdd Tai Cymru. Byddwn hefyd yn parhau 芒鈥檙 rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach.鈥 Y prif adnodd ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni domestig i dai yn y sector preifat yw鈥檙 rhaglenni Llywodraeth Cymru. Mae鈥檙 rhain wedi鈥檜 hatal ar hyn o bryd ac mae鈥檙 Cyngor yn aros am rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyllid pellach ar gyfer y rhaglenni hyn sydd fel arfer yn targedu aelwydydd sydd 芒鈥檙 risg mwyaf o ddioddef tlodi tanwydd.