天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Ynglyn â Setliad Llywodraeth Leol

Published: 11/10/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno 芒 Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau eraill yng Nghymru i fynegi ei bryder ynghylch setliad dros dro鈥檙 llywodraeth leol, gan gydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd mewn sefyllfa anodd. Roedd y Cyngor wedi pwyso am setliad ariannol safonol a buddsoddiad ychwanegol mewn gofal cymdeithasol ac addysg. Mae gostyngiad o 0.9% yn fygythiad gwirioneddol i barhad y gwasanaethau rheng flaen hynny yr ydym ni wedi brwydro鈥檔 galed dros y blynyddoedd diwethaf i鈥檞 gwarchod. Ers tair blynedd yn olynol mae Cyngor Sir y Fflint, fel Cyngor sy鈥檔 cael llai o gyllid y pen dan y fformiwla ariannu, wedi datgan pam bod cynghorau yn y sefyllfa hon yn arbennig o ddiamddiffyn i effeithiau parhaus y caledi ariannol. Roeddem wedi rhagweld bwlch ariannol o 拢11.7 miliwn. O ganlyniad i鈥檙 setliad hwn mae鈥檙 bwlch wedi codi 拢1.6 miliwn, heb unrhyw gefnogaeth genedlaethol ar gyfer gwasanaethau allweddol. Mae鈥檙 Cyngor yn parhau i ganfod ffyrdd arloesol i arbed arian ac eisoes yn cynnig gwerth 拢3 miliwn o arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Pan fydd y Cabinet yn cyfarfod ar 24 Hydref, bydd datganiad pellach ar gael o ran sut y gallwn gyrraedd ein targed cyllidebol ar gyfer 2018/19. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淗offaf ategu barn Ysgrifennydd y Cabinet o ran galw ar Ganghellor y Trysorlys i wrthdroi rhaglen galedi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a fyddai wedyn yn darparu cyllid ychwanegol i Gymru elwa arno, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol ac addysg. Oni bai fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud hyn, bydd Cyngor Sir y Fflint a chynghorau eraill yng Nghymru yn wynebu her aruthrol y flwyddyn nesaf i bennu cyllideb gytbwys. Ni ddylid rhoi cynghorau yn y sefyllfa hon o gwbl.