天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Darlun Mawr

Published: 04/10/2017

Y Darlun Mawr (http://thebigdraw.org/) yw gwyl ddarlunio fwyaf y byd gyda miloedd ar filoedd o weithgareddau darlunio (y mwyafrif ohonynt am ddim) i鈥檞 mwynhau. Bydd y gweithgareddau hyn yn cysylltu unigolion o bob oedran ag amgueddfeydd, mannau awyr agored, artistiaid, dylunwyr, darlunwyr 鈥� a鈥檌 gilydd. Mae鈥檙 Darlun Mawr yn ddigwyddiad delfrydol ar gyfer unrhyw un sy鈥檔 mwynhau darlunio, a鈥檙 sawl sy鈥檔 meddwl nad ydynt yn gallu gwneud! Mae darlunio yn iaith gwbl unigryw. Ydych chi eisiau troi syniad yn realiti? Mae penseiri, dylunwyr, artistiaid, peirianwyr a gwyddonwyr yn defnyddio darluniau i newid y byd yn ddyddiol. Mae croeso i bawb ymuno 芒鈥檙 wyl ddarlunio fwyaf yn y byd. Dewch draw i ddarlunio, sgriblo, braslunio, paentio neu greu marciau ag ystyr a dathlu pwysigrwydd darlunio a llythrennedd gweledol. Gweithdai Sir y Fflint Bydd Parc Gwepra a Theatr Clwyd yn cynnal gweithdai darlunio, creu ac animeiddio gyda鈥檙 artistiaid Ben Davis a Jude Wodd fel rhan o ddathliadaur Darlun Mawr, Sir y Fflint. Mae鈥檙 gweithdai鈥檔 rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw, felly dewch draw i ymuno. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch 芒 Gwenno drwy ffonio 01352 781454 neu e-bostio gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk. Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra, 10am 鈥� 2.30pm, dydd Sadwrn, 7 Hydref a dydd Sul, 8 Hydref. Theatr Clwyd, 11am 鈥� 4pm, dydd Sul, 15 Hydref fel rhan o Ddiwrnod Agored y Theatr https://www.theatrclwyd.com/cy/beth-sydd-ymlaen/diwrnod-agored-hydref-2017/ Bydd y gwaith a gr毛wyd i鈥檞 weld yng Ngaleri Addysg Theatr Clwyd o ddydd Mawrth, 24 Hydref hyd at ddydd Mawrth, 21 Tachwedd.