Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ysgolion iau Sir y Fflint yn cael budd o gynllun peilot
  		Published: 27/09/2017
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi cynnal cynllun peilot gyda鈥檙 prosiect 
Meee i helpu a chefnogi plant lleol. 
Mae鈥檙 prosiect Meee (My Education, Employment and Enterprise) yn cynnig 
gweithdai arbennig sy鈥檔 addysgu technegau ar gyfer ymdopi gyda straen a 
gorbryder pan fo rhywun yn cael trafferth ffitio i mewn 鈥 yn yr ysgol, yn y 
gwaith neu鈥檙 gymdeithas ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
鈥淣od y cynllun peilot hwn yw helpu plant ysgol, gan gynnwys y rheiny sydd mewn 
perygl o fod yn anystywallt, i ddysgu sgiliau newydd ac i ail-ymgysylltu ag 
addysg drwy fynychu cyfres o weithdai ysbrydoledig wedi鈥檜 cynnal gan arbenigwyr 
addysg a lles.鈥
Mae鈥檙 cynllun peilot yn cynnwys cyfres o weithdai dwy awr ar gyfer plant wedi鈥檜 
dewis o ysgolion Sir y Fflint. Mae鈥檙 gweithdai yn ymdrin 芒 materion fel 
hunan-barch, dyheadau, mentergarwch, iechyd, moeseg, credoau, lles, ieithoedd, 
amrywiaeth a chyfathrebu. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu, hysbysu 
ac ysbrydoli disgyblion, gan gynnwys gwaith unigol a grwp, ysgrifennu 
cyflwyniadau, dysgu sgiliau newydd a gwaith creadigol.
Mae鈥檙 cynllun peilot wedi鈥檌 ymestyn, yn dilyn cyfnod prawf 3 mis llwyddiannus 
gydag Ysgol Maesglas yn Nhreffynnon ac Ysgol Cae鈥檙 Nant yng Nghei Connah. Bu i 
dros 50 o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 fynychu鈥檙 gweithdai. 
Meddai Sid Madge, sefydlydd y prosiect Meee: 
鈥淢ae estyn y cynllun peilot yn ardystiad gwych o鈥檙 gwaith rydym ni鈥檔 ceisio ei 
wneud i helpu pobl ifanc ddarganfod eu hunain, i鈥檞 hysbrydoli ac i鈥檞 annog i 
ymgysylltu ag addysg mewn ffordd newydd.鈥 
Meddai Pennaeth Ysgol Maesglas, Gavin Cass:
鈥淩oeddem yn falch iawn o鈥檙 cyfle i fod yn rhan o鈥檙 cynllun peilot hwn. Roedd 
Sid a鈥檌 d卯m yn frwdfrydig ac amyneddgar dros ben. Maen nhw wedi gweithio鈥檔 
galed iawn i roi hwb i鈥檙 disgyblion cyn iddyn nhw symud ymlaen i鈥檙 ysgol 
uwchradd. Maer staff ar disgyblion yn s么n am y profiad mewn ffordd gadarnhaol 
iawn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Meee eto.
Meddai Kate Fox-Parry, Pennaeth Ysgol Cae鈥檙 Nant:
鈥淩oedd prosiect Meee yn cyd-fynd yn dda iawn gyda鈥檔 gwaith twf cyfeiriad 
meddwl, a bu i鈥檙 plant ei fwynhau yn fawr iawn gan ei fod yn eu herio ac yn 
gwneud iddyn nhw bennu disgwyliadau uchel.鈥 
Bydd y cynllun peilot estynedig yn cael ei gynnal o fis Medi 2017 tan ddiwedd 
mis Mawrth 2018.