Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mae fy nheulu i鈥檔 maethu
  		Published: 03/10/2017
Mis Meibion a Merched: dathlu teulu maeth yw ymgyrch flynyddol Rhwydwaith 
Maethu i ddathlu鈥檙 cyfraniad hanfodol y mae plant gofalwyr maeth yn ei wneud i 
ofal maeth llwyddiannus.
Bob blwyddyn, mae gwasanaethau maethu ledled y DU yn cynnal digwyddiadau a 
gweithgareddau i gydnabod plant a phobl ifanc a鈥檙 r么l bwysig maen nhw鈥檔 chwarae 
wrth groesawu plant maeth i鈥檞 teuluoedd.
Bydd t卯m maethu Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 7 Tachwedd am 
7pm yng Ngwesty Springfield, Treffynnon, gan gynnig cyfle i ddod o hyd i fwy o 
wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth. 
Mae cant a dau ddeg pedwar o deuluoedd lleol yn maethu gyda Chyngor Sir y 
Fflint.  Mae eu plant eu hunain, yn ogystal 芒鈥檙 plant maeth, yn byw gyda tua 
traean o ofalwyr maeth Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae plant gofalwyr maeth yn chwarae r么l bwysig yn croesawu plant maeth i鈥檞 
teuluoedd a sicrhau lleoliadau maeth llwyddiannus.
鈥淢ae llawer o bobl yn dweud mai鈥檙 effaith bosib ar eu plant eu hunain yw un o鈥檙 
prif rwystrau i ddod yn ofalydd maeth.  Y realiti yw bod nifer o blant yn elwa 
o fod yn rhan o鈥檙 rhwydwaith gefnogi sy鈥檔 cael ei chynnig gan deulu maeth i 
blentyn maeth. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad gwerth 
chweil a gall helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn.鈥
Dywedodd Janette, gofalwr maeth Sir y Fflint:
鈥淢ae fy meibion fy hun wedi bod yn faethwyr ifanc ers nifer o flynyddoedd ac 
wrth fynychu digwyddiadau grwp, maen nhw鈥檔 cael y cyfle i gyfarfod maethwyr 
ifanc eraill ac yn ogystal 芒 hynny, maer digwyddiadau鈥檔 gwneud iddyn nhw 
deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o deulu ehangach yn y r么l 
bwysig maen nhwn ei wneud.鈥
Dywedodd Debra, gofalwr maeth arall yn Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 grwp maethu ifanc yn gr锚t.  Mae ein plant yn mwynhau鈥檙 diwrnodau gwych. 
Nid yn unig maen nhw鈥檔 cael amser i fwynhau eu hunain, ond maen nhw hefyd yn 
cael cyfle i gyfarfod 芒 maethwyr ifanc eraill. Yn ddiweddar, buon nhw ar daith 
i 鈥楾reetops鈥 ym Metws-y-Coed ac fe gafon nhw ddiwrnod ffantastig, llawn hwyl. 
Debra, Gofalwr Maeth Sir y Fflint.
Mae t卯m maethu Sir y Fflint yn cynnal grwp cefnogi ar gyfer meibion a merched 
eu gofalwyr maeth ac yn trefnu taith llawn hwyl yn ystod gwyliau鈥檙 ysgol i 
ddweud diolch. Eleni, mae鈥檙 grwp wedi mwynhau teithiau i fowlio deg, chwilfa 
laser, go cartio a thaith haf i 鈥楾reetops ym Metws-y-Coed.  Mae parti 
anifeiliaid Calan Gaeaf wedi cael ei drefnu ar gyfer hanner tymor mis Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i www.flintshirefostering.org.uk neu 
ffoniwch 01352 701965.