Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Am lanast rydych wedi鈥檌 dacluso!
  		Published: 25/09/2017
Mae newyddion cynnar wedi ein cyrraedd sy鈥檔 dangos bod digwyddiad tacluso 
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn llwyddiant ysgubol. 
Casglodd 250 o wirfoddolwyr tua 200 sach o sbwriel yn Sir y Fflint yn unig, a 
hefyd dwy dunelli o ddeunydd a gafodd ei dipio yn anghyfreithlon, yn ogystal 芒 
thorrir prysgwydd, cribor dd么l a symud logiau. 
Casglwyd cannoedd o fagiau o sbwriel gan wirfoddolwyr o ysgolion, grwpiau 
cymunedol, sefydliadau a busnesau, a oedd hefyd wedi plannu 412 o blanhigion 
eithin, tair coeden ywen, clirio prysgwydd ac ail-wynebu llwybrau yn ystod 
digwyddiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni. 
Roedd y digwyddiad yn cael ei gydlynu gan Gyngor Sir Y Fflint gyda staff o 
gynghorau cyfagos Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd 
Amwythig, a Chyfoeth Naturiol Cymru.  
Dyma rai enghreifftiau or gwaith gwych a wnaed yn ystod y diwrnodau diwethaf:
路 Ger y Fflint - 19 o wirfoddolwyr Toyota wedi casglu 35 bag o sbwriel a 
deunydd wedii dipion anghyfreithlon; roedd gan Cadw Cymru鈥檔 Daclus wyth o 
bobl allan yn casglu deg bag o sbwriel; fe gasglodd wyth o bobl eraill o 
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub wyth bag hefyd. 
路 Casglodd saith myfyriwr a鈥檜 harweinydd o Goleg Llysfasi, chwe bag sbwriel o 
lan Afon Gwepre.  
路  Bu pedwar o wirfoddolwyr o Sustrans yn brysur iawn wrth gasglu 28 bag yn 
ogystal ag eitemau mwy o Bont Penarl芒g i Bont Saltney Ferry. 
路  Cafodd 12 o bobl o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth 
Dyffryn Maes Glas 30 bag yn ogystal ag eitemau mwy o gwmpas y 鈥渓long hwyl鈥.  
路  Bu Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas hefyd yn llwyddiannus yn gwaredu 
tunnell o ddeunydd wedi鈥檌 dipio鈥檔 anghyfreithlon o鈥檙 dyffryn. 
路 Casglwyd pum bag o sbwriel yn Bettisfield gan wyth o bobl o Gyfeillion 
Blaendraeth Bagillt. 
路 Bu pymtheg Sgowt o Dreffynnon ynghyd 芒 gwirfoddolwyr eraill yn llwyddiannus 
wrth gasglu 16 bag o sbwriel ac ychydig o eitemau mwy o Ddyffryn Maes Glas a鈥檙 
Doc. 
路  Llenwodd unarddeg gwirfoddolwr o Kingspan dryc llawr gwastad a chwe bag 
sbwriel, roeddent hefyd wedi torri llawer o brysgwydd. 
路 Yn Presthaven, casglodd 25 person 12 bag o sbwriel. 
路  Daeth deg ar hugain o ddisgyblion Ysgol Gwynedd ynghyd 芒 phobl o Gefn Gwlad 
Sir y Fflint a ENI i gasglu tri bag o Dalacre; llenwodd chwe gwirfoddolwr arall 
o McDonalds dri bag arall or un traeth a chasglodd gwirfoddolwyr o Gyfoeth 
Naturiol Cymru 7 bag llawn sbwriel. 
路 Casglodd pump o wirfoddolwyr Quay Watermen 30 bag o sbwriel. 
路 Gweithiodd ugain o wirfoddolwyr Tesco a staff o Wasanaethau Cefn Gwlad Sir y 
Fflint ar gasglu wyth bag o sbwriel, plannu 412 o blanhigion eithin a gwaredu 
ar bum trelar llawn prysgwydd wedii dorri yn Nociau Maes Glas. 
路  Cliriodd 70 myfyriwr a鈥檜 harweinwyr o Goleg Cambria, ynghyd 芒 staff Cefn 
Gwlad Sir y Fflint ardal fawr o logiau a changhennau o Ffrwd Gwepra i helpur 
llif, a buont yn cribo ardal fawr o鈥檙 dd么l a chlirio ardaloedd o brysgwydd. 
路 Gweithiodd 25 gwirfoddolwr o Gyfoeth Naturiol Cymru ar yr ardaloedd hyn hefyd 
yn ogystal 芒 Thraeth Talacre. 
路  Buont yn clirio pum erw o goed helyg a bedw oedd yn ennill tir ar gynefin yr 
arfordir, gan wella鈥檙 cynefin i fywyd gwyllt ar safle SODDGA/ ACA/ Ramsar y 
Parlwr Du. 
路 Cafodd 20 o gynefinoedd coed wedi marw eu creu , a bydd yr ardaloedd hyn yn 
cynnig cynefinoedd pwysig i infertebratau bach ac adar sy鈥檔 nythu. 
路  Cwblhawyd arolwg safle 48 erw, a oedd yn adnabod 18 crafiad posib o 
lyffantod y twyni. 
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Cefn Gwlad: 
鈥淢ae wir yn anhygoel faint o sbwriel sydd wedi ei gasglu hyd yn hyn 鈥 heb s么n 
am y ffigyrau terfynol!    Mae hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol a hoffwn 
ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled i sicrhau bod hyn yn mynd yn 
ei flaen.  Maen enghraifft go iawn o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus 
ac rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o hyn. Roedd yn ymdrech wych gan bawb a 
gymerodd ran.
Roedd hi鈥檔 stori debyg ar draws gweddill y rhanbarth: 
路  Wrecsam - Gosododd wyth o staff Tesco 20 metr o lwybr troed yn Nyfroedd Alun 
a chreodd ddeg o鈥檜 staff lwybr bord 6 metr a chlirio adran o鈥檙 pwll dwr yn Nhy 
Mawr. 
路  Sir Ddinbych - Tynnodd 20 o wirfoddolwyr o Tesco gannoedd o goed o ardal 
Moel Famau o鈥檙 enw 鈥淭y i鈥檙 Rugiar Ddu鈥 - er mwyn helpu gyda chynnal a chadw鈥檙 
cynefin ar gyfer y rugiar ddu. 
路 aSwydd Gaer 鈥 Casglodd 27 o staff Tesco bum bag o sbwriel a pheintio meinciau 
a ffensys, a bu 12 person o Quest yn torri coed a phrysgwydd yn Nyffryn Caldy; 
casglodd 17 aelod o Grwp Ysbryd Cymunedol Parkgate 2 fag. 
路 Swydd Amwythig 鈥 Roedd Tesco鈥檔 gallu anfon 23 aelod o staff, ac ymunodd 4 
aelod o Bwyllgor Rheoli Ifton Meadows ac aelodau o staff o Gyngor Swydd 
Amwythig.   Y dasg ar gyfer Diwrnod Mawr Y Ddyfrdwy yn Swydd Amwythig oedd 
clirio prysgwydd oedd yn ennill tir ar laswelltir pwysig ar gyfer ehedyddion 
sy鈥檔 bridio.  Cliriwyd ardal enfawr o laswelltir gan y gwirfoddolwyr a 
chofnodwyd 112 awr o wirfoddoli. 
Dechreuodd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy gyda digwyddiad lansio dros frecwast ym 
Mharc Gwepra a chyflwynwyd gwobrau i nifer o sefydliadau am eu gwaith 
ymroddedig i warchod yr amgylchedd yn ystod y 12 mis diwethaf.