天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau parcio i breswylwyr

Published: 22/09/2017

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried fersiwn ddiwygiedig o Bolisi Cynllun Parcio i Breswylwyr yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 26 Medi. Mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint Gynllun Parcio i Breswylwyr yn 2013 i gynorthwyo鈥檙 rheiny sy鈥檔 byw mewn eiddo heb fannau parcio oddi ar y stryd sy鈥檔 cael problemau parcio tu allan i鈥檞 heiddo oherwydd bod busnesau neu ymwelwyr yn defnyddio mannau parcio am ddim ar strydoedd er mwyn osgoi costau meysydd parcio. Mae鈥檙 polisi yn nodi egwyddorion ar gyfer sefydlu Cynllun Parcio i Breswylwyr a fyddai鈥檔 gwella鈥檙 amgylchedd mewn mannau preswyl a gwella parcio ar y stryd i breswylwyr, rheoli traffig a diogelwch y ffyrdd wrth osgoi creu problemau posib mewn mannau eraill a gostwng lefel parcio ar y stryd ar gyfer ymwelwyr a busnesau. Ar hyn o bryd, nid oes meini prawf ar gyfer blaenoriaethu Cynlluniau Parcio i Breswylwyr na chyfyngu sawl cynllun fydd modd ei ystyried mewn blwyddyn ariannol ac mae鈥檙 adroddiad yn argymell proses ar gyfer blaenoriaethu cynlluniau a chyfyngu ar y nifer o gynlluniau a ddatblygir ym mhob blwyddyn ariannol. Yr egwyddorion cychwynnol yw y dylai bod tystiolaeth glir bod preswylwyr yn cefnogi cynllun o鈥檙 fath cyn i fanylion y cynllun gael eu paratoi gydag o leiaf 50% o eiddo mewn ardal arfaethedig heb unrhyw fannau parcio oddi ar y stryd. Fodd bynnag, ni fyddai Cynlluniau Parcio Preswyl yn cael eu cyflwyno pan fo gan y rhan fwyaf o breswylwyr fannau parcio oddi ar y stryd neu pan nad oes digon o fannau parcio ar y stryd ar gyfer parcio preswyl ac amhreswyl. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Strydwedd: 鈥淢ae Cynlluniau Parcio i Breswylwyr yn darparu datrysiadau posib mewn amgylchiadau lle nad yw鈥檔 ymarferol i reoli problemau parcio drwy gyfyngiadau parcio confensiynol a gwneud canol trefi a鈥檙 cyrion yn fwy deniadol. 鈥淣i ddylai cynlluniau o鈥檙 fath greu problemau annerbyniol ar ffyrdd cyfagos ac ni fydd cyflwyno cynlluniau o鈥檙 fath lle bo mannau parcio yn gyfyngedig iawn yn effeithio ar hyfywedd masnachol yr ardal. Dylai unrhyw gynllun ffurfio rhan o gynllun rheoli parcio a thraffig integredig鈥.