Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth
  		Published: 22/09/2017
Byd natur yw system cynnal bywyd y blaned, ac mae鈥檔 darparu ein bwyd, dwr, aer, 
deunyddiau adeiladu, meddyginiaethau an tirwedd. Bioamrywiaeth yw鈥檙 amrywiaeth 
o fywyd ar y ddaear ac mae colli bioamrywiaeth yn parhau o ganlyniad 
uniongyrchol i effeithiau dynol, drwy golli cynefinoedd a diraddiad, gor 
ecsbloetio, llygredd, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau estron goresgynnol.
Mae Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint wedi ei lunio 
mewn ymateb ir dyletswyddau cynyddol o ran bioamrywiaeth a gwytnwch 
ecosystemau o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Llywodraeth Cymru, 
fframwaith newydd o ran deddfwriaeth sy鈥檔 torri tir newydd ac sy鈥檔 golygu fod 
rhaid i Awdurdodau Cyhoeddus geisio cynnal a chynyddu bioamrywiaeth cyn belled 
芒鈥檌 fod yn gyson gyda chyflawni ei swyddogaethau鈥檔 briodol ac wrth wneud hynny 
hybu gwytnwch ecosystemau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 
Gellir ymdrin 芒r holl fygythiadau i fioamrywiaeth gan gynnwys gor ecsbloetio, 
colli cynefinoedd a rhywogaethau goresgynnol drwy fyw yn fwy cynaliadwy. Fel 
awdurdod lleol mae gennym ddyletswydd i weithredu cynaliadwyedd ac arwain drwy 
esiampl o ran amddiffyn a hybu ein hamgylchedd naturiol.
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint fel Awdurdodau Lleol eraill o dan bwysau ariannol 
parhaus ac estynedig, ond mae鈥檔 hanfodol fod mentrau amgylcheddol yn cael eu 
cofleidio fel cyfle i wella lles y sir gyfan, gwytnwch a gwneud arbedion 
ariannol gwerthfawr. 
鈥淓r mwyn ymateb i鈥檙 her o ddadwneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth mae鈥檔 
hanfodol ein bod yn gweithredu nawr a sicrhau ein bod fel awdurdod lleol yn 
diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau鈥檙 dyfodol i 
ddiwallu eu hanghenion eu hunain.鈥
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y Cynllun Cyflawni Dyletswydd 
Bioamrywiaeth yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 26 Medi.