Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Swyddfa Archwilio Cymru
  		Published: 22/09/2017
Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i Gabinet Cyngor Sir Y Fflint dderbyn y 
Cynllun Gwella Blynyddol ar gyfer 2016/17. 
Dyma鈥檙 seithfed Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer Sir y Fflint ac mae鈥檔 
cadarnhau cynnydd parhaol Sir y Fflint fel Cyngor sy鈥檔 cael ei lywodraethun 
dda ac sy鈥檔 perfformio鈥檔 dda, gan nodi: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn cwrdd ei ofynion 
statudol o safbwynt gwelliant parhaus.  Mae absenoldeb unrhyw argymhellion 
newydd yn dangos fod gan y corff rheoleiddio hyder llwyr yn y Cyngor ai allu. 
Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru dri adolygiad yn y Cyngor, sef: 
路 Asesiad Corfforaethol dilynol; 
路 Adolygiad Llywodraethu Da; a
路 Effeithiolrwydd rhaglen arbedion effeithlonrwydd y Cyngor. 
Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi gwneud cynnydd cyffredinol da wrth gyflawni ei 
flaenoriaethau gwella ac yn dangos perfformiad cryf ar draws nifer o feysydd 
gwasanaeth. 
Gan groesawu鈥檙 adroddiad, dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
 鈥淢ae鈥檙 adroddiad diweddaraf gan archwilwyr allanol y Cyngor yn amlygu pa mor 
dda mae Cyngor Sir Y Fflint yn parhau i berfformio. Nid yw Swyddfa Archwilio 
Cymru wedi nodi unrhyw welliannau statudol newydd ac maent wedi argymell pedwar 
cynnig gwirfoddol ar gyfer gwella, ac yr ydym yn edrych yn fanwl ar y rheiny.  
Er y pwysau ariannol dwys, mae Sir y Fflint yn parhau i gyflawni ei 
flaenoriaethau: tai, gofal cymdeithasol, addysg a鈥檙 economi.鈥 
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
 鈥淢aer adroddiad gan ein prif reoleiddiwr yn amlygu ein dull da o lywodraethu 
ac yn dangos fod Sir y Fflint yn gyngor syn cael ei redeg yn dda. Dylai hyder 
Swyddfa Archwilio Cymru ynom ni roi sicrwydd i鈥檔 cymunedau.