Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynnig Gofal Plant
  		Published: 22/09/2017
Bydd Cabinet Sir y Fflint yn cael adroddiad wedi鈥檌 ddiweddaru am weithredu 
Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn fuan a bydd gofyn iddo gydnabod y 
cynnydd a wnaed pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.
Roedd Sir y Fflint yn un o chwech Cyngor i fabwysiadu鈥檙 cynllun yn fuan, a bydd 
y cynnig yn cael ei dreialu o fis Medi 2017 ymlaen yn Sir y Fflint, Gwynedd, 
Ynys M么n, Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf.
Bwriad y cynnig gofal plant 30 awr yw lliniaru effeithiau tlodi a gostwng 
anghydraddoldeb. Mae鈥檙 cynnig wedi鈥檌 ddylunio i fod yn gynhwysol ac felly bydd 
plant ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 
yn cael eu cefnogi i sicrhau eu lle.
Mae Sir y Fflint, ynghyd ag awdurdodau eraill, wedi gweithio gyda Llywodraeth 
Cymru i ddatblygu modelau lleol ar gyfer treiglo鈥檙 cynnig gofal plant a 
ariennir yn genedlaethol, ac mae鈥檙 plant cyntaf wedi cychwyn y mis yma.
Y meysydd cychwynnol ar gyfer peilot Sir Y Fflint yw: Bwcle, Bagillt a Brychdyn 
ac yn ardaloedd Aston, Cei Connah (Canol a Golftyn), Garden City, Maes-Glas, 
Shotton Uchaf, Treffynnon (Canol), Mancot, Y Fferi Isaf a Sandycroft.  Bydd hyn 
yn profi鈥檙 cynllun mewn ardaloedd sydd 芒 lefelau uchel ac isel o gyflogaeth, ar 
draws llwybrau teithio i waith, gan gynnwys teithio tu allan i Gymraeg a drwy 
gymysgedd o leoliadau a gynhelir a rhai nas cynhelir.
Hyd yn hyn, cafodd Sir y Fflint 152 cais ac maent wedi bod yn llwyddiannus wrth 
fynd drwy鈥檙 broses ymgeisio gan alluogi rhieni i gofrestru ar-lein a dewis 
darparwyr gofal plant cofrestredig o鈥檙 122 o ddarparwyr.  Mae鈥檙 system ar-lein 
hon wedi cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 nodi ei fod yn 
gost-effeithiol ac yn cydymffurfio 芒 gofynion diogelu data.  Mae鈥檙 ffigwr 
gwreiddiol o 441 o blant yn cael ei ymestyn i 748 o blant o bosib gyda鈥檙 bwriad 
o fanteisio i鈥檙 eithaf ar y grant ar gyfer teuluoedd Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩wyf wrth fy modd fod Sir y Fflint wedi datblygu a gweithredu y cynllun peilot 
cyffrous hwn ar gyfer plant ifanc a鈥檜 rhieni.  Mae鈥檙 gwaith a wnaed hyd yn hyn 
wedi bod yn rhagorol ac mae鈥檙 gwaith yn parhau i wneud yn siwr bod y cynllun yn 
llwyddiannus. Mae grwp cynghori wedii sefydlu yn Sir y Fflint ac mae鈥檔 
cyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu鈥檙 cynnig a rhoi canllawiau ac arweiniad i d卯m 
y prosiect. Mae鈥檙 grwp cynghori yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau fel 
Dechraun Deg, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Hawliau Cynnar, datblygu 
gofal plant a sefydliadau sydd dan ymbar茅l gofal plant.
Mae rhai o鈥檙 amcanion ar gyfer y dyfodol yn cynnwys:
路 Parhau i wella鈥檙 system ar-lein;
路 Manteisio i鈥檙 eithaf ar y cynnig drwy ei hyrwyddo鈥檔 barhaus a 
chyhoeddusrwydd; a
路 Cynnal gweithdy i roi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf i ddarparwyr am ddatblygu鈥檙 
cynllun yn lleol.