Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint
  		Published: 22/09/2017
Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint wedi cyrraedd carreg filltir yn 
ei ddatblygiad yn dilyn canolbwyntio ar y camau ymgysylltu cychwynnol a 
chyfranogi o baratoi ar gyfer y cynllun fel a nodwyd gan Reoliadau CDLl 
Llywodraeth Cymru. Daethpwyd 芒鈥檙 gwaith at ei gilydd i ffurfio鈥檙 Strategaeth a 
Ffefrir ar gyfer y CDLl. Cyn hyn, mae鈥檙 Cyngor wedi cynnal nifer o 
ymgynghoriadau a phrosesau ymgysylltu sy鈥檔 ymwneud 芒 Negeseuon Allweddol y 
Cynllun a鈥檙 Opsiynau Strategol sy鈥檔 cael eu hategu gan ymgysylltu sylweddol 芒r 
gymuned.
Mae鈥檙 CDLl yn darparu fframwaith Sir y Fflint ar gyfer cynllunio defnydd tir yn 
y sir hyd at y flwyddyn 2030.  Bydd yn siapio dyfodol ffisegol ac amgylcheddol 
Sir y Fflint, ac yn dylanwadu arno鈥檔 economaidd ac yn gymdeithasol drwy ymateb 
i anghenion poblogaeth sy鈥檔 tyfu ac economi bwysig yn rhanbarthol, ond mae鈥檔 
rhaid iddo wneud hyn mewn ffordd sy鈥檔 sicrhau bod lles ei gymunedau yn cael ei 
gynnal a bod effaith datblygu a defnydd tir yn cael eu rheoli鈥檔 gynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a 
Chynllunio:
鈥淢ae鈥檙 Strategaeth a Ffefrir yn cynrychiolir trawsnewid rhwng y camau 
ymgysylltu ac ymgynghori anffurfiol blaenorol a鈥檙 camau ymgynghori mwy ffurfiol 
wrth symud ymlaen tuag at fabwysiadu鈥檙 Cynllun.
鈥淢ae鈥檙 Cyngor wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau wrth ymgysylltu ag 
amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid wrth i鈥檙 CDLl ddatblygu i ddarparu fframwaith 
ar gyfer cynllunio defnydd tir Sir y Fflint gan y bydd y broses o gael 
consensws yn ein galluogi i gyflwyno鈥檙 Strategaeth a Ffefrir yn hyderus ar 
gyfer ymgynghori arni.
鈥淧an fydd wedi gorffen, bydd yn darparu canllaw cynhwysfawr o gyfleoedd 
cynllunio yn y sir a bydd yn ceisio sicrhau datblygu cynaliadwy.鈥
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo drafft terfynol y 
Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 26 Medi 
gyda鈥檙 bwriad o鈥檌 chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus swyddogol.
Mae rhagor o wybodaeth am CDLl Sir y Fflint ar gael ar wefan y Cyngor: 
www.flintshire.gov.uk/ldp.