Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathlu’r Rhaglen Adferiad a Lles
  		Published: 21/09/2017
Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad ar 12 Hydref i 
ddathlu pum mlynedd o’r Rhaglen Adferiad a Lles.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3pm yn Neuadd Ddinesig Cei 
Connah ac mae croeso i bawb ddod draw i gael gwybod mwy.
Dechreuodd Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sir y Fflint ariannu’r rhaglen hon yn 2012 
er mwyn cynnig cyfleoedd hyfforddi a dysgu i bobl sydd â phroblemau iechyd 
meddwl a chamddefnyddio sylweddau au gofalwyr er mwyn eu helpu i wella a dod 
dros eu hanawsterau.   Darperir yr hyfforddiant gan nifer o sefydliadau 
partner, yn cynnwys MIND, Unllais, ASNEW a KIM.
Mae’r rhaglen wedi bod yn hynod o lwyddiannus a bu modd ariannu gweithiwr 
cefnogi Adferiad a Lles ers 2013.
Bydd y dathliad yn olrhain llwyddiant y rhaglen rhwng  2012  a heddiw, gyda 6 o 
unigolion wedi cael cymorth yn 2012 a 486 hyd yma eleni - llwyddiant aruthrol o 
fewn cyfnod cymharol fyr.
Dros y 5 mlynedd diwethaf hysbysebwyd dros 280 o gyrsiau gyda 1500 o lefydd 
wedi’u cymryd. Mae gan y gweithiwr cefnogi Adferiad a Lles ar hyn o bryd gronfa 
ddata o dros 540 o bob sydd wedi mynychu un neu fwy or cyrsiau ar ryw adeg.  
Mae’r amrywiaeth eang o gyrsiau wedi cynnwys; y rhaglen SAFE, amrywiol gyrsiau 
celf a chrefft, ymwybyddiaeth ofalgar, gweithdai gwella a chadwn iach, 
ysgrifennu CV, cwrs gwirfoddoli Camu i Fyny Camu Allan, addurno cacennau a 
chreu basgedi blodau crog.
Felly dewch draw i ddysgu rhagor – bydd croeso mawr i chi a bydd cyfle i chi 
gymryd rhan mewn sesiynau blasu celf a chrefft, cerddoriaeth, tai chi, coginio 
a sgiliau coetir am ddim. 
Bydd cyfle hefyd i chi roi adborth yn ystod y dydd er mwyn i ni allu gwella a 
datblygu’r rhaglen ymhellach, ar yr un pryd a mwynhau’r lluniaeth fydd ar gael. 
Am ragor o fanylion, 01244 831056 or 07776 452471 or email 
karen.griffith@flintshire.gov.uk.