Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Menter Sir y Fflint yn cymysgu ar gyfer busnes
Published: 20/09/2017
Gyda chefnogaeth Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, gwnaeth chwe aelod o Glwb
Menter Sir y Fflint fynychu Cynhadledd ac Arddangosfa Mingle for Business eleni
a gynhaliwyd yn Ystafell Gynadledda gwesty Springfield yn ddiweddar.
Y thema ar gyfer y diwrnod oedd 鈥淪imply the Best鈥 ac roedd yn cynnwys
arddangosfa ryngweithiol o drawstoriad eang o ddiwydiannau o wasanaethau
busnes, cynnyrch ac adnoddau datblygiad personol, a phob un yn cynnig cyngor a
chymorth ymarferol.
Roedd Barry Evans, sylfaenydd Evolift Safety Products, Caroline Lamont o Tips
on Nails, Carol Britnell sy鈥檔 cynnig cynnyrch sy鈥檔 deillio o wenyn gan gynnwys
m锚l, cadachau gw锚r a chwyr, Joanne Powell, sydd 芒 busnes creu gwisgoedd a
dodrefn golygfaol o鈥檙 enw 鈥淐ostumes for Children鈥, Bethan Williams o Amser Babi
Cymraeg, ac Angela Atherton o Autism Support, i gyd yn bresennol yn y
digwyddiad.
Sefydlwyd Mingle for Business gan Sandra Donaghue, sy鈥檔 egluro:
鈥淢ae Mingle for Business yn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol ac
entrepreneuriaid sy鈥檔 darparu cymorth busnes effeithiol a rhwydweithio i
weithwyr busnes proffesiynol ar bob lefel. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd ar
draws Gogledd Cymru a Chaer. Roeddwn wrth fy modd o weld cymaint o aelodau
Clwb Menter Sir y Fflint yn y digwyddiad oherwydd rwyf wedi bod yn eu cefnogi
dros y misoedd diwethaf drwy ddarparu gweithdai Pathway 2 Business ac maen
nhw鈥檔 grwp o bobl fusnes brwdfrydig iawn ac ymroddedig, a phob un yn angerddol
am eu sgiliau penodol.
鈥淩oedd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau cefnogol wedi鈥檜 cynllunio i
ysbrydoli, i fynd i鈥檙 afael 芒 materion sy鈥檔 effeithio ar fusnesau, i rannu
awgrymiadau, cynnig cyngor a rhannu profiadau personol. Y nodau oedd cefnogi
busnesau bach i ddatblygu rhwydwaith cefnogaeth, codi proffiliau a gosod
hunangred mewn amgylchedd sy鈥檔 ysbrydoli.鈥