天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Amgueddfa Bwcle yn ailagor

Published: 20/09/2017

Yn dilyn ailddatblygiad sylweddol, ail-agorwyd Amgueddfa Bwcle yn ffurfiol yr wythnos hon gan y Prif Swyddog dros Newid Sefydliadol yng Nghyngor Sir y Fflint, Ian Bancroft. Roedd y bobl a oedd yn bresennol yn y seremoni yn cynnwys Liz Stewart o National Museums Liverpool sy鈥檔 cynnwys nifer o arteffactau o ardal Bwcle. Mae鈥檙 Amgueddfa鈥檔 gweithio鈥檔 agos gydag Amgueddfa Bwcle i sicrhau ei bod yn 鈥渁mgueddfa byw鈥 gyda chasgliad sy鈥檔 newid o hyd. Siaradodd Paul Davies o Gymdeithas Bwcle am y sesiynau a gaiff eu rhedeg gan y gymdeithas yn yr amgueddfa i bobl ifanc a phobl hyn 鈥 gan ddod ag atgofion i fywyd ac addysgu鈥檙 preswylwyr ifanc am eu treftadaeth. Roedd aelodau o Gyngor Tref Bwcle, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd y Cwmni Hamdden a Llyfrgelloedd newydd, Aura, hefyd yn bresennol. Dywedodd Ian Bancroft: 鈥淩oedd Cyfoeth Cymru Gyfan Bwcle wedi鈥檌 ariannu gan Lywodraeth Cymru a Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae wedi codi safonau鈥檙 amgueddfa鈥檔 llwyr gan alluogi gwrthrychau i gael eu benthyca gan National Museums Liverpool.鈥 Mae鈥檙 arddangosfeydd ar lawr uchaf Llyfrgell Bwcle, ac maen nhw鈥檔 edrych ar orffennol diwydiannol yr ardal. Mae pwyslais penodol ar gynhyrchu crochenwaith ym Mwcle. Gall ymwelwyr weld uchafbwyntiau o gasgliad Martin Harrison o gerameg Bwcle. Mae鈥檙 arddangosfa hefyd yn edrych ar Jiwbil卯 Bwcle a鈥檙 clwb nos enwog Tivoli. Mae鈥檙 amgueddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm a dydd Sadwrn rhwng 9.30 a 12.30pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.