Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newydd ar gyfer 2022, Gwobrau Bionet!
Published: 13/10/2022
Eleni bydd y Partneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal y Gwobrau Bionet i ddathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth.
Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu鈥檙 llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth. Yng ngoleuni鈥檙 argyfwng ecolegol, mae llawer o鈥檙 newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol.听
Rhennir y gwobrau yn 8 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau:
- Gwobr Unigolyn Ifanc
- Gwobr Grwp Cymunedol
- Gwobr Ysgol Gynradd听
- Gwobr Ysgol Uwchradd
- Gwobr Busnes听
- Gwobr Datblygiad sy鈥檔 gyfeillgar i fioamrywiaeth
- Gwobr Cyngor Tref neu Gymuned
- Gwobr Gwirfoddolwr听
Mae鈥檙 holl ffurflenni cais a chanllawiau ar gael yma:听.
Felly cerwch amdani ac enwebu!听 Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau yw 12pm ar 28 Hydref! Caiff gwobrau eu cyflwyno yn ein cynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno ar 24 Tachwedd 2022.

听
听
听
听
听
听
听
听
听