天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau Adfywio Canol Tref

Published: 12/10/2022

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint nodi cynnydd cadarnhaol sy鈥檔 cael ei wneud ar adfywio canol trefi yn Sir y Fflint pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach yn y mis.

Mae canol trefi llai ar draws y Deyrnas Unedig wedi bod yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol ers blynyddoedd yn sgil y newid i ymddygiad cwsmeriaid.听

Mae鈥檙 pandemig wedi cyflymu鈥檙 tueddiadau hyn ac mae angen i ni edrych ar ffyrdd o sicrhau bod ein trefi鈥檔 barod ar gyfer y dyfodol trwy ddod ag eiddo gwag yn 么l i ddefnydd a chreu defnydd mwy cynaliadwy ar eu cyfer.

Er nad ydi canol trefi Sir y Fflint ag imiwnedd i鈥檙 broses yma, nid yw colli siopau cadwyn mawr a鈥檙 cynnydd o ran gofod llawr gwag wedi bod yn fater mor sylweddol ag mewn ardaloedd eraill.听 Fodd bynnag, mae cau banciau鈥檙 stryd fawr wedi bod yn fwy sylweddol mewn nifer o drefi yn Sir y Fflint. Mae hyn, yn ei dro, wedi cael effaith ar raddfa a bywiogrwydd y marchnadoedd stryd yn y Sir.

Cafodd dull Sir y Fflint o ran adfywio canol trefi ei gymeradwyo ym mis Mai 2021 ac mae camau mawr wedi鈥檜 gwneud ers hynny, gan gynnwys dechrau gwaith i ddatblygu cynllun ar gyfer saith canol tref yn seiliedig ar fenter Cynlluniau Lleoedd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mai eleni.听 Bydd y fenter hon yn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer canol trefi sydd 芒 Chynllun Lle.听 Mae pob tref yn unigryw ac mae nodi blaenoriaethau ar gyfer pob tref yn allweddol a byd pob cynllun yn cymryd tua chwe mis i鈥檞 gwblhau.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

鈥淢ae鈥檙 rhain yn gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein trefi ac mae gennym gapasiti i ddatblygu dau neu dri ar unrhyw adeg.听 Rydym yn argymell bod trefi yn cael eu hadolygu mewn tri cham, gyda鈥檙 cam cyntaf yn edrych ar feysydd sydd 芒 blaenoriaethau sefydledig o bosibl, a lle gallai buddsoddiad yn y dyfodol fod mewn perygl os na chaiff Cynllun Lle ei ddatblygu fel blaenoriaeth.鈥�

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Rhaglen Orfodi ym maes Eiddo Gwag hefyd.听 Mae cyllid ar gael ar gyfer y fenter hon hefyd a gofynnir i鈥檙 Cabinet am gymeradwyaeth i symud ymlaen 芒 hyn, ar sail nifer o feini prawf.听

Ychwanegodd y Cynghorydd Healey:

鈥淢ae鈥檙 meini prawf yn cynnwys cwestiynau ynghylch y cyfnod y mae鈥檙 eiddo wedi bod yn wag a p鈥檜n a roddwyd cyngor i鈥檙 perchennog eisoes.听 Mae dod ag eiddo gwag yn 么l i ddefnydd yn allweddol i adfywio canol tref a chaiff unrhyw waith a wneir ei drin yn sensitif a chyfrinachol i sicrhau bod y canlyniad gorau posibl yn cael ei gyflawni.鈥�

听