ÌìÑÄÉçÇø

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffocws Sir y Fflint ar goed

Published: 30/09/2022

Mae gan wefan Cyngor Sir y FflintÌý sy’n dangos y coed sy’n destun Gorchmynion Diogelu Coed a’r Ardaloedd Cadwraeth yn y sir lle caiff coed eu diogelu.Ìýtree.jpg

Mae hyn yn caniatáu i gontractwyr coedyddiaeth, perchnogion coed ac aelodau o’r cyhoedd nodi pa goed sy’n cael eu diogelu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.Ìý Gellir lawrlwytho copïau o’r Gorchmynion Diogelu Coed oddi ar y wefan.Ìý ÌýMae’r dudalen we hefyd yn cynnwys gwybodaeth ategol ynghylch gofalu am a chynnal a chadw coed.Ìý ÌýÌý

Yn ei gapasiti fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae’r cyngor wedi bod yn arolygu coed ynn aeddfed ar hyd priffyrdd i nodi unrhyw ddirywiad a achoswyd gan glefyd coed ynn.Ìý Mae’r cyflwr wedi bod yn bresennol yn y sir ers o leiaf 2015 ac wedi arwain at ddirywiad a marwolaeth miloedd o goed.Ìý ÌýMae’r arolwg wedi nodi coed sydd mewn perygl sylweddol ac a allai ddisgyn i’r briffordd.Ìý Cynghorir perchnogion y coed hynny i gymryd camau i fynd i’r afael â’r broblem hon.ÌýÌý

Yn ystod yr hydref a’r gaeaf, bydd y Cyngor yn cyflwyno rhybuddion cyfreithiol dan y Ddeddf Priffyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion tir fynd i’r afael â choed anniogel.Ìý Os daw hi i’r pen, lle bo perchennog yn methu â mynd i’r afael â’r risg, bydd y Cyngor yn ymgymryd â’r gwaith coed ac yn adennill y costau.Ìý ÌýY neges i berchnogion tir yw na fydd y cyngor yn rheoli eich coed, eich cyfrifoldeb chi yw hynny.Ìý

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal arolygon coed ar ei dir ei hun ac yn rheoli gwarediad coed ynn wedi’u heintio yn unol â lefel y risg.Ìý

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am glefyd coed ynn a sut mae’r Cyngor yn ymdrin â’r risgiau sydd ynghlwm â’r clefyd ar

Bydd Parc Gwepra’n cynnal Diwrnod Coed a Pherllannau ddydd Sul, 9 Hydref, 11am - 3pm.Ìý ÌýYmunwch â’r ceidwaid a’r tîm cadwraeth ar gyfer gweithgareddau coediog.Ìý Rheoli coetiroedd a pherllannau, arddangosiadau impio, gwasgu afalau a mwy. Diwrnod llawn hwyl i’r teulu, gallwch archebu lle ar y daith a’r sgwrs ar .

Ìý