Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Eich llwybr i Ofal Cymdeithasol
Published: 30/09/2022
Ydych chi eisiau gyrfa werth chweil?
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun?
Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gyda Th卯m Datblygu'r Gweithlu Cyngor Sir y Fflint i gyflwyno rhaglen hyfforddiant 鈥楲lwybr i Ofal Cymdeithasol鈥� arall.
Mae鈥檙 rhaglen hon yn rhoi cyfle i bobl leol gael yr hyfforddiant ac ennill y sgiliau sy鈥檔 angenrheidiol i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol, yn darparu gofal a chefnogaeth i鈥檙 bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas.
Hoffech chi fod yn rhan o鈥檙 cyfle unigryw a chyffrous hwn i ddatblygu eich gyrfa a鈥檙 personoliaeth?听 Hoffech chi鈥檙 cyfle i gael hyfforddiant achrededig ac ennill y sgiliau angenrheidiol i ymgeisio am swyddi o fewn y Sector Gofal Cymdeithasol?
Os felly, cofrestrwch ar gyfer yr hyfforddiant, a gynhelir yn Swyddfeydd y Cyngor yn Nhy Dewi Sant, Ewlo, yn dechrau ddydd Llun 24 Hydref, drwy鈥檙 wythnos hyd at ddydd Gwener 28 Hydref.
Bydd y pum diwrnod llawn o hyfforddiant yn cynnwys:
- Pasbort Symud a Lleoli
- Cwrs Meddyginiaeth
- Rheoli Heintiau
- Diogelwch Bwyd
- Epilepsi a Meddyginiaeth Achub
- Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Iechyd a Diogelwch
- Ymwybyddiaeth Diogelu Plant ac Oedolion
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd cyflogwyr gofal lleol hefyd ar gael i ddarparu gwybodaeth am y swyddi gwag sydd ar gael i gyfranogwyr.
Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, sy鈥檔 helpu鈥檙 oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Mae鈥檙 rhaglen yn targedu oedolion sy鈥檔 economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hirdymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant ar draws Sir y Fflint. Mae鈥檔 ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal 芒鈥檜 helpu i ddod o hyd i waith, neu wella eu cyfle i ddod o hyd i waith.
I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau am Waith, neu i gofrestru ar rai o鈥檔 rhaglenni llwybr, cysylltwch 芒 Nia Parry neu Janiene Davies ar nia.parry@flintshire.gov.uk听 07770633453 neu Janiene.davies@flintshire.gov.uk 听07770632128.
听