Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2017 yn nesáu
  		Published: 12/09/2017
Bydd cannoedd o wirfoddolwyr ar lannau Afon Dyfrdwy a鈥檙 ardaloedd cyfagos dros 
yr wythnos nesaf ar gyfer digwyddiad glanhau blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy.
Mae鈥檙 digwyddiad, gaiff ei gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint gyda staff o 
gynghorau cyfagos Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd 
Amwythig a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn dychwelyd am yr 11eg flwyddyn ac maen 
argoeli i fod yn fwy a gwell nac erioed.
Bydd gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol, grwpiau cadwraeth a busnesau o bob rhan 
o Ogledd Cymru a Swydd Gaer yn torchi eu llewys i glirior afon a sbwriel y m么r 
yn ogystal 芒 thaclusor ardaloedd ar hyd ei glannau a鈥檙 eithin.
Mae tua 40 o sefydliadau yn rhan o鈥檙 glanhau gan gynnwys Cadw Cymru鈥檔 Daclus, 
Coleg Cambria, Ysgol Gwynedd, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Friends of Bagillt 
foreshore, Sustrans, ENI, Kingspan, Grwp Sgowtiaid Treffynnon, Cyfeillion Parc 
Gwepra, McDonald鈥檚, Tesco, Toyota ac Airbus.  
Dyma rai or gweithgareddau syn digwydd:
路 Bydd Ysgol Gwynedd, ENI a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn casglu 
sbwriel yn Nhraeth Talacre ar 15 Medi.
路 Bydd Sgowtiaid Treffynnon yn casglu sbwriel a thacluso yn Nyffryn Maes Glas a 
Doc Maes Glas ar 16 Medi;
路 Bydd staff o Tesco a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn clirio a phlannu 
eithin yn Noc Maes Glas ar 19 Medi;
路 Bydd Toyota yn gwneud eu rhan ar flaendraeth Sir y Fflint ar 20 Medi;
路 Bydd gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn casglu 
sbwriel o amgylch Llanerch y M么r (cwch hwyl) ar 21 Medi.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 
 鈥淢aen wirioneddol wych gweld cynifer yn awyddus i gymryd rhan a helpu i 
ddiogelu ein hamgylchedd lleol. Maer gwirfoddolwyr yn chwarae rhan enfawr wrth 
helpu i sicrhau bod ein harfordir yn cael ei gadwn l芒n i ymwelwyr a bywyd 
gwyllt. Hoffwn ddiolch i bawb a fydd yn cefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2017. 
Mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi鈥檔 fawr.鈥
Bydd Diwrnod Mawr Y Ddyfrdwy yn cychwyn gyda lansiad, wedi ei noddi gan 
McDonald鈥檚, ym Mharc Gwepra rhwng 9.30 a 12.30pm dydd Gwener 15 Medi.