Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn Prysur Agosáu 
  		Published: 07/09/2017
Bydd lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy #DdyrfywyMawr17 eleni yn digwydd ym Mharc 
Gwepra, Cei Connah, ddydd Gwener 15 Medi am 9:30am.
Noddir y lansiad eleni gan McDonald鈥檚, ac mae鈥檙 digwyddiad glanhau blynyddol 
hwn, sy鈥檔 cael ei gynnal dros sawl diwrnod, yn cael ei gydlynu gan Gyngor Sir y 
Fflint yn ogystal 芒 staff o gynghorau cyfagos gan gynnwys, Gorllewin Caer a 
Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd Amwythig a Chyfoeth Naturiol Cymru. 
Mae McDonalds wedi bod yn rhan o Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy ers blynyddoedd 
bellach ac eleni fe fydd dros 14 o bobl o鈥檙 saith bwyty gwahanol sydd dan 
reolaeth Stewart Williams yn Sir y Fflint a Wrecsam, allan unwaith eto ar 20 
Medi yn casglu sbwriel ar draeth Talacre.   Maent hefyd wedi cynorthwyo 
Ceidwaid Sir y Fflint 芒 phlannu bylbiau, glanhau nentydd, plannu coed a thasgau 
eraill dros y blynyddoedd diwethaf ar adegau gwahanol or flwyddyn. 
Dyma鈥檙 drydedd flwyddyn i Tesco gymryd rhan a bydd oddeutu 150 aelod o staff yn 
ein cynorthwyo yn y chwe sir. Bydd y gwirfoddolwyr yn ymgymryd 芒 thasgau 
amrywiol, gan gynnwys plannu eithin, casglu sbwriel a thorri prysg yn 
Greenfield. Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn casglu sbwriel ar Yr Wyddfa ac yn 
torri coed ar Moel Famau. 
Ers y cynhaliwyd y digwyddiad am y tro cyntaf 11 mlynedd yn 么l mae wedi tyfu o 
nerth i nerth ac fe fydd oddeutu 40 sefydliad yn cymryd rhan yn y digwyddiad 
eleni.  Mae鈥檙 sefydliadau hyn yn cynnwys McDonald鈥檚, Sefydliad Cenedlaethol 
Brenhinol y Badau Achub, Coleg Llyfasi, Ysgol Gwynedd, Ysgol Uwchradd Cei 
Connah, Friends of Bagillt Foreshore, Sustrans, Kingspan, Grwp Sgowtiaid 
Treffynnon, Cyfeillion Parc Gwepra, Tesco, Toyota ac Airbus.  Mae pawb syn 
cymryd rhan yn gweithion galed i glirio sbwriel yr afon a sbwriel morol syn 
cael ei olchi i fyny ar hyd yr Afon Dyfrdwy, ac yn paentio a thaclusor lleoedd 
arbennig ar hyd ei glannau ar arfordir, o fynyddoedd Cymru i gynefin 
arfordirol aber afon Dyfrdwy.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 
鈥淗offwn ddiolch i bawb sy鈥檔 parhau i gefnogir digwyddiad llwyddiannus hwn ac 
fe hoffwn ddiolch i McDonald鈥檚 yn benodol am noddi ein digwyddiad lansio 
eleni.  Rydym yn llwyddo i gyflawni ei nod o lanhau ein harfordir ar gyfer 
ymwelwyr a bywyd gwyllt.  Mae hyn, ynghyd 芒 gwaith Llwybr Arfordir Cymru, yn 
gwneud ein harfordir ni yn le delfrydol i ymweld ag ef.  Fel digwyddiad 
trawsffiniol, rydym yn mynd i鈥檙 afael 芒 phroblem cenedlaethol a byd eang gyda 
phobl, busnesau a chymunedau yn Sir y Fflint.鈥 
Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Tim Johnson: 
鈥淢ae鈥檙 digwyddiad hwn yn llwyddo i ddod 芒 llawer o grwpiau a sefydliadau ynghyd 
a phob un ohonynt 芒 nod cyffredin, mae鈥檔 wych.  Mae Tesco unwaith eto wedi 
mynychu鈥檙 holl gyfarfodydd drwy gydol y flwyddyn i baratoi ar gyfer y 
digwyddiad, yn sicr dylid cydnabod cefnogaeth o鈥檙 fath.鈥