天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint ar y Camau Nesaf ar gyfer Gosodwaith Celf Blwyddyn y Chwedlau yng Nghastell y Fflint

Published: 07/09/2017

Yn dilyn cynnal y seibiant i ailystyried a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr haf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen 芒 dau osodwaith celf mawr i ddathlu Blwyddyn y Chwedlau. Un or rheini oedd y Cylch Haearn yng Nghastell y Fflint. Er hynny, bydd y gwaith ar Gastell y Fflint a鈥檙 uwchgynllun ar gyfer y blaendraeth yn mynd yn ei flaen. Mae鈥檔 bosib y caiff gosodwaith celf mawr arall fod yn rhan o鈥檙 buddsoddiad hwnnw. Fel rhan or adolygiad, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cwrdd 芒 Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref y Fflint a nifer o grwpiau a phartneriaid lleol i drafod sut y dylid mynd ati i ddatblygu Castell y Fflint a blaendraeth y Fflint. Dywedodd Llywodraeth Cymru yn glir ei bod wedi ymrwymo i fuddsoddi arian sylweddol yng Nghastell y Fflint ac i ddarparu uwch-gynllun ar gyfer blaendraeth a Chastell y Fflint, a hynny ar 么l ymgynghorin llawn 芒 rhanddeiliaid lleol. Er i randdeiliaid lleol fynegi peth cefnogaeth ir cerflun a gynigiwyd, derbyniwyd y byddain rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch gosodwaith celf mawr gyd-fynd 芒r uwchgynllun ehangach. Or herwydd, cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn dod 芒r gwaith ar y cerflun i stop ac y byddain canolbwyntio yn hytrach ar ddefnyddio peth or arian i gynnal yr uwchgynllun, syn disgrifio gweledigaeth ar gyfer canolfan defnydd cymysg i ymwelwyr a phobl eraill i gefnogi twristiaeth, cerdded a beicio a mudiadau lleol pwysig gan gynnwys yr RNLI a chlybiau rygbi a ph锚l-droed lleol. Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi ar Seilwaith, Ken Skates: Rydyn nin cydnabod bod y cynnig ar gyfer cerflun y Cylch Haearn wedi rhannu barn ac yn dilyn cyfarfodydd hynod adeiladol a chynhyrchiol 芒 rhanddeiliaid lleol, rydym wedi penderfynu peidio 芒 bwrw ymlaen 芒鈥檙 dyluniad dan sylw. Byddwn yn defnyddior arian oedd wedii neilltuo ar gyfer y gwaith celf i gynnal yr uwchgynllun ehangach ar gyfer y blaendraeth, yn unol 芒 barn pobl leol. Bydd hynnyn cynnwys buddsoddi cyfalaf mewn nifer o brosiectau yn yr ardal a chynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gynyddu dealltwriaeth o hanes y Castell ac arwyddoc芒d y blaendraeth. Fel Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, rydym am roi blaenoriaeth uchel i ddatblygur uwchgynllun.鈥 Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint: Rydym yn croesawur buddsoddiad hwn yn y Castell ar blaendraeth ar ymrwymiad i gadwr adnoddau yn y Fflint. Roedd ein cyfarfod diweddar 芒 Llywodraeth Cymru yn un hynod bositif ac rwyn teimlon hyderus, trwy gydweithio yn y dyfodol, y cawn ganlyniad syn ffafriol i drer Fflint fydd yn gwellar Castell hanesyddol 芒i gysylltiadau 芒 Rhisiart II a Shakespeare, y blaendraeth ar gwelliannau sydd wediu cynnal yng nghanol y dref dros y blynyddoedd diwethaf. Byddwn hefyd yn parhau i ystyried cynigion ar gyfer gwaith celf mawr fel rhan o uwchgynllun y blaendraeth.