天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Celfyddydau Anabledd Cymru 鈥� Yn Galw ar Artistiaid o Sir y Fflint

Published: 06/09/2017

Ydych chi鈥檔 artist, gwneuthurwr neu鈥檔 ymarferydd creadigol sy鈥檔 byw ac yn gweithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru? Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn chwilio am artistiaid, gwneuthurwyr ac ymarferwyr creadigol o bob cyfrwng celf sy鈥檔 ystyried eu hunain yn anabl neu rywun 芒 chyflwr iechyd hirdymor i ymuno 芒 ni i fod yn aelodau o Gelfyddydau Anabledd Cymru yn ardaloedd Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam. Rydym yn cyfarfod bob deufis yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug i rannu syniadau a chyfleoedd. Fel sefydliad, rydym yma ich cynorthwyo i ddatblygu fel ymarferydd creadigol. Rhaid i chi fod o leiaf 16 oed, nid oes cyfyngiad o ran oedran uchaf ac ni chodir ffi aelodaeth ar unigolion anabl. Fel aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru bydd swyddog rhanbarthol yn eich cefnogi fel artist unigol a bydd cyfle i chi gystadlu mewn cystadleuaeth arddangos a barddoniaeth flynyddol, cael rhestriad yn yr oriel artistiaid a byddwch yn derbyn e-bost wythnosol i ddweud wrthych beth syn digwydd. Am sgwrs anffurfiol neu os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch 芒 Lowri-Mair Owen, Swyddog Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru, lowri@dacymru.com neu 07910766774, fel arall edrychwch ar y wefan, sef www.disabilityartscymru.co.uk.