Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cyngor yn Anrhydeddu Diwrnod y Llynges Fasnachol
  		Published: 05/09/2017
Cododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch ddydd Sul, 3 Medi, i nodi Diwrnod y 
Llynges Fasnachol.  
Mae鈥檙 Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i forwyr y maer DU yn dibynnu 
arnynt.
Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu鈥檙 dynion a鈥檙 merched 
dewr sydd wedi gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd.  Rydym hefyd yn 
dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol presennol sy鈥檔 gyfrifol am 
95% o fewnforion y DU, gan gynnwys llawer o鈥檙 bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan 
fwyaf o鈥檙 tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a鈥檙 nwyddau rydym 
yn eu cymryd yn ganiataol.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: 
 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn falch o sefyll gydag awdurdodau lleol eraill i 
gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol.  Rydym yn codir Lluman Coch bob blwyddyn 
fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr heddiw a morwyr y 
gorffennol.  Mae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel ynys ac 
mae hi鈥檔 dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog:
 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac rydym yn 
cydnabod ei bod yr un mor bwysig cydnabod gwasanaeth y Llynges Fasnachol in 
gwlad.
Maer holl gynghorau lleol syn cymryd rhan wediu hychwanegu i 鈥淩estr 
Anrhydedd鈥 Diwrnod y Llynges Fasnachol ar 
https://www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-day/.